Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol gwasanaethau'r llyfrgell. Wedi ei lleoli ar gampws Penglais [Lleoliad], mae'n darparu man ar gyfer astudio, pa un ai ydych am astudio'n dawel ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Darperir amrywiaeth o adnoddau i roi help llaw gyda'ch astudiaethau ac ar gyfer ymlacio mewn man tawel.
Mae rhestr ddarllen ar gyfer modiwl fel rheol yn cynnwys rhestr o lyfrau a ffynonellau gwybodaeth eraill a gasglwyd gan gynllunydd y modiwl i gynorthwyo eich astudiaeth o'r modiwl hwnnw.
Cewch hyd i'r rhestr ddarllen ar gyfer modiwl yr ydych yn ei astudio yn Blackboard.
Mewngofnodwch, ewch i'r modiwl a chliciwch ar y ddolen Rhestr Ddarllen Aspire yn y ddewislen ar y chwith,
Neu ymwelwch ag Aspire a chwilota am fodiwl drwy teiptio teitl a/neu gôd y modiwl
Os ydych chi'n dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu os ydych chi'n ddarpar fyfyriwr, ewch i dudalennau modiwlau PA ac ar dudalen unrhyw un o'r modiwlau:
cliciwch ar Gweld yn Aspire i weld rhestr ddarllen ar gyfer modiwl presennol
cliciwch ar Gweld enghraifft o restr yn Aspire i weld enghraifft o restr ar gyfer modiwl a fydd yn cael ei ddysgu yn y dyfodol
neu ewch i Aspire a chwiliota am fodiwl drwy teipio teitl a/neu gôd y modiwl
Primo yw catalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Yn Primo gallwch chwilio am lyfrau, erthyglau, traethodau ymchwil a deunyddiau eraill yng nghasgliad y llyfrgell o adnoddau printiedig ac electronig. I gael y canlyniadau gorau o Primo, bydd angen i chi mewngofnodi.
Mae ein Cwestiynau a Holir yn Aml am Primo yn llawn o wybodaeth defnyddiol. Cymrwch olwg arnynt y fan hyn.
I ddarganfod a oes llyfr penodol ar gael yn y Llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Llyfrau yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig neu hidlo'r canlyniadau yn fwyfwy i ateb eich gofynion.
Llyfr ar gael
Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth.
Llyfr ar fenthyg
Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn.
Ad-alw llyfr
Medrwch ad-alw llyfr yn ôl os yw ar fenthyg. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ad-alw y fan yma.
Mynediad Ar-lein
Pan fydd mynediad ar-lein ar gael i lyfr electronig, bydd Primo yn nodi hyn fel y ganlyn:
Mae holl staff a myfyrwyr y Brifysgol yn medru benthyca hyd at 40 llyfr ar un amser.
Gallwch benthyca'r rhan fwyaf o lyfrau am wythnos, ac fe fydd y rhain yn cael eu adnewyddu yn awtomatig bob wythnos naill ai tan bod defnyddiwr arall eisiau'r llyfr, neu tan fydd y llyfr wedi bod ar fenthyg am 6 mis.
Ni fyddwch yn cael dirwy oni bai nad ydych yn dychwelyd llyfr â adelwir gan ddefnyddiwr arall, neu os nad ydych yn dychwelyd y llyfr i'r llyfrgell ar ôl 6 mis.
Prif adrannau:
Q Gwyddoniaeth (Cyffredinol)
Q 335-336 Deallusrwydd Artiffisial
QA 75 Cyfrifiadureg
QA 76.6 Rhaglennu
QA 76.73 Ieithoedd unigol e.e. QA76.73.J38 Java
QA 76.76 Pynciau arbennig e.e. QA76.76.O63 Systemau gweithredu
T Technolegoleg
TK eirianneg drydanol
TK 5105 Cyfathrebiadau a rhwydweithiau
Llyfrgell Hugh Owen
Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Oriau Agor
Llyfrgell Hugh Owen
Mae manylion ar ein horiau agor ar gael yma
Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Bydd staff yn bresennol yn y llyfrgell yn ystod y tymor rhwng 2yp-5yp, ddydd Llun - Iau a 2yp-4.30yp ar ddydd Gwener.
Ni fydd staff yn y llyfrgell y tu allan i’r oriau hyn ond bydd mynediad i’r llyfrau, cyfnodolion, mannau astudio, cyfrifiaduron a’r argraffydd yn parhau yn ddibynnol ar oriau agor/cau’r adeilad Gwyddorau Ffisegol.
Rhagor o fanylion ar ein horiau agor ar gael yma.