Pan fyddwch yn chwilio am wybodaeth am y we, fe ddewch o hyd i lawer o wefannau a lluniau. Mae'n bwysig gwirio, cloriannu a dilysu'r hyn a welwch. Edrychwch drwy'r tabiau hyn i gael canllawiau defnyddiol ar beth i edrych amdano.
Pan fyddwch yn chwilio am wybodaeth am y we, edrychwch ar yr e-gyfeiriad (URL) i asesu awdurdod y ffynhonnell. Hyd yn oed os yw'r wefan yn cael ei chynnal gan sefydliad swyddogol, bydd angen i chi ddilysu’r wybodaeth a roddir yno o hyd.
Mae un rhan o'r e-gyfeiriad yn dangos y math o barth:
.ac |
coleg addysg uwch neu brifysgol ym Mhrydain |
.gov |
asiantaeth neu gorff llywodraeth |
.com |
sefydliad masnachol. |
.net |
darparwr rhwydwaith |
.org |
sefydliad nid-er-elw |
.int |
rhyngwladol |
.nhs |
y Gwasanaeth Iechyd Gwladol |
.edu |
coleg addysg uwch neu brifysgol yn Unol Daleithiau America |
Dylech hefyd wirio'r elfennau isod:
Gwiriwch y darn Ynglŷn/Amdanom/'About' o'r wefan/sefydliad | Methu gweld adran Ynglŷn/Amdanom/'About' neu heb gael llawer o wybodaeth yno? Gallai hyn fod yn arwydd nad yw'r sefydliad neu'r safle yn ddibynadwy. |
Gwiriwch y wybodaeth Cyswllt/Cysylltwch â ni. | Methu gweld adran Cyswllt/Cysylltwch â ni na dim byd am sut i anfon ymholiad i'r safle? Gallai hyn fod yn arwydd nad yw'r sefydliad neu'r safle yn ddibynadwy. |
Gwiriwch olwg y tudalennau ar y wefan | Sut olwg sydd ar y wefan? Os yw'r dyluniad i'w weld yn rhyfedd mewn rhyw fodd, gallai hyn fod yn arwydd bod rhywbeth o'i le. |
Ai hysbysebion yw'r cyfan? | Efallai y cewch rywfaint o hysbysebion ar wefan ond os cewch chi fwy o hysbysebion na gwybodaeth - gofynnwch i chi'ch hun, beth yw diben y wefan? Ai gwerthu rhywbeth i chi ynteu rhoi gwybodaeth i chi am eich pwnc? |
Rhowch y prawf 'CCAPP' neu feini prawf y '5 P' i gloriannu gwefannau
Arf ddefnyddiol wrth bwyso a mesur delweddau yw Google Images (https://images.google.co.uk/) lle gallwch wneud chwiliad delwedd wrthdro. Mae hyn yn enwedig o ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i'r artist neu'r sawl a greodd y ddelwedd ac am ddod o hyd i ddelweddau tebyg fel y gallwch weld sut y cawsant eu defnyddio. Mae hefyd yn effeithiol wrth ddangos sut y defnyddiwyd y ddelwedd ar-lein o'r blaen - ble a phryd.
Cewch wella ansawdd eich ymchwil a'r hyn rydych yn dod o hyd iddo drwy wirio'ch ffeithiau a darganfod beth sy'n wir a beth sy'n ffug. Edrychwch ar y tabiau a'r safleoedd defnyddiol isod.
https://www.bbc.co.uk/news/reality_check
Mae BBC Reality Check yn wasanaeth gan newyddion y BBC sy'n ymroi i daflu goleuni ar newyddion a straeon ffug er mwyn dod o hyd i'r gwirionedd.
Y gwasanaeth cyntaf yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi'i neilltuo i wirio ffeithiau.
Bydd FullFact yn gwirio ffeithiau yr hyn y mae gwleidyddion, sefydliadau cyhoeddus a newyddiadurwyr yn ei ddweud, yn ogystal â deunydd ar-lein sy'n ymledu'n feirol.
Er nad yw Hoaxy yn safle gwirio ffeithiau, mae'n wefan ddefnyddiol i ymweld â hi fel offer delweddu sy'n dangos sut mae newyddion ffug yn teithio ac ymledu.
Gellir defnyddio'r safle rhwydweithio proffesiynol hwn er mwyn gwirio cymwysterau ac arbenigedd awduron.
Media Bias/Fact Check - Search and Learn the Bias of News Media
https://mediabiasfactcheck.com
Nod Media Bias/Fact Check yw dod o hyd i arferion twyllodrus a thueddiadau yn y newyddion a'r cyfryngau.
Elusen annibynnol yw Sense about Science sy'n herio camliwio gwyddoniaeth a thystiolaeth mewn bywyd cyhoeddus.
Mae Snopes, sef Urban Legends Reference Pages gynt, yn wefan gwirio ffeithiau. Fe'i disgrifiwyd fel "deunydd cyfeirio sydd uchel ei barch ar gyfer datgelu’r gwir am straeon a sïon ffug" ar y Rhyngrwyd. Mae hefyd wedi cael ei weld yn ffynhonnell am ddilysu a datgelu chwedlau modern a straeon tebyg yn niwylliant poblogaidd America.
WHO | World Health Organization
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn monitro a chwalu straeon ffug a gynhyrchwyd gan y cyfryngau am y gwyddorau iechyd a biocemegol.
Wrth ddewis adnodd neu wefan, gallwch ddefnyddio'ch sgiliau meddwl beirniadol a'r '5 P'
Bydd angen i chi ofyn y 5 cwestiwn 'P':
PWY - PA BETH - PRYD - PA LE - PAM
Fersiwn arall o'r prawf CCAPP, mewn trefn wahanol, sy'n ystyried y ffynhonnell o safbwynt:
Acronym yw 'CCAPP' sy'n sefyll am bob cam ym mhroses cloriannu ffynhonnell (Cyfredol – Cywirdeb – Awdurdod – Perthnasol – Pwrpas). Mae wedi’i seilio ar yr acronym Saesneg ‘CRAAP’ (Currency – Revelance – Authority – Accuracy – Purpose)
C: Cyfredol 'Currency'
C: Cywirdeb 'Accuracy'
A: Awdurdod 'Authority'
P: Perthnasol 'Relevance'
P: Pwrpas 'Purpose'
Rhaid cymhwyso hyn hefyd i Gynnwys a Gynhyrchir gan DA - cliciwch trwy'r tabiau am fwy o wybodaeth.
Datblygwyd y Prawf 'CRAAP' yn Saesneg gan Lyfrgell Meriam ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Chico.
C: Cyfredol - yn ymwneud â pha mor amserol yw'r adnoddau neu pa mor ddiweddar yw'r wybodaeth.
Gofynnwch i chi eich hun...
Gwerthuso Cynnwys a Gynhyrchir gan DA:
C: Cywirdeb - yn ymwneud â dibynadwyedd, gwirionedd a chywirdeb y ffynhonnell.
Gofynnwch i chi eich hun...
Gwerthuso Cynnwys a Gynhyrchir gan DA:
A: Awdurdod - yn cyfeirio yn syml at yr awdur(on) - pwy ysgrifennodd y darn? Mae'n bwysig gwybod gwaith pwy rydych chi'n ei ddefnyddio.
Gofynnwch i chi eich hun...
Gwerthuso Cynnwys a Gynhyrchir gan DA:
P: Perthnasol - yn ymwneud â phwysigrwydd y wybodaeth i chi a'ch anghenion gwybodaeth chi.
Gofynnwch i chi eich hun...
Gwerthuso Cynnwys a Gynhyrchir gan DA:
Pwrpas - yn ymwneud â pham y crëwyd y wybodaeth.
Gofynnwch i chi eich hun...
Gwerthuso Cynnwys a Gynhyrchir gan DA: