Noder: Gwiriwch gyda'ch adran neu Gydlynydd Modiwl i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa fath o ddefnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial sy'n dderbyniol neu beidio yng ngwaith cwrs eich modiwl.
Gwyliwch y fideos canlynol er mwyn cael negeseuon gan staff dysgu a chymorth ynghylch sut y gallwch ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn eich astudiaethau mewn modd agored, effeithlon a moesegol. Dylai'r fideos hyn roi arweiniad ichi yn eich defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a'ch cyfeirio at ragor o adnoddau er mwyn ichi osgoi Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Bydd hyn o gymorth i sicrhau y gallwch ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn ddiogel i gefnogi eich taith ddysgu drwy gydol eich cyfnod yn Aberystwyth. Crëwyd gan y Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.
In process (11.09.23)