Cyhoeddiad yw cyfnodolyn sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol sy'n gallu cynnwys detholiad o erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Cyhoeddir cyfnodolion yn reolaidd, megis yn wythnosol, misol neu chwarterol. Mae pob copi yn rifyn ac mae set o rifynnau yn gwneud cyfrol (fel arfer, mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân). Gelwir cyfnodolion weithiau yn gylchgronau. Unrhyw beth a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y rhif dosbarth, golyga hyn ei fod yn gyfnodolyn. Gallant fod ar gael mewn fformat print, ar-lein neu'r ddau.
Pam defnyddio erthyglau?
Mae cyfnodolion academaidd yn cynnwys yr ymchwil diweddaraf o fewn eich maes astudio, ac mae rhai ohonynt wedi’u rhestru yma. Ceir hyd i fwy drwy Primo, catalog y llyfrgell.
Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.
Gallwch ddod o hyd i gylchgronau printiedig cyfredol a hŷn mewn Cyfrifiadureg yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. Mae llawer o gyfnodolion hefyd ar gael ar-lein trwy Primo.
Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o gyfnodolion electronig.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am adnoddau electronig y fan yma.
Ymwelwch â'r Cwestiynau a Holir yn Aml am e-gyfnodolion (Saesneg yn unig - aros am gyfieithiad).
"Mae MathSciNet yn gyhoeddiad electronig sy'n rhoi mynediad i gronfa ddata o adolygiadau, crynodebau a gwybodaeth lyfryddol y gellir chwilio trwyddi’n hawdd er mwyn dod o hyd i lawer o lenyddiaeth y gwyddorau mathemategol. Mae MathSciNet® yn cynnwys bron i 3 miliwn o eitemau a dros 1.7 miliwn o ddolenni uniongyrchol i erthyglau gwreiddiol. Mae’r data llyfryddiaethol o erthyglau wedi'u hôl-ddigideiddio yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 1800au. Cesglir rhestrau cyfeirio a'u paru'n fewnol o oddeutu 550 o gyfnodolion, a darperir data cyfeiriol ar gyfer cyfnodolion, awduron, erthyglau ac adolygiadau. Mae'r we hon o fynegai cyfeiriol yn fodd i ddefnyddwyr olrhain hanes a dylanwad cyhoeddiadau ymchwil ym maes gwyddorau mathemategol."
Llyfrau a Chyfnodolion y Sefydliad Ffiseg (IOP)
"Mae IOPscience wedi'i gynllunio i'w gwneud yn hawdd i ymchwilwyr ddod o hyd i gynnwys perthnasol a rheoli eu gwybodaeth ymchwil. Gydag IOPscience gallwch:
• Gyflymu eich gwaith ymchwil: dod o hyd i gynnwys perthnasol yn gyflym gyda gwell hidlo wrth chwilio
• Arbed amser: ail-redeg chwiliadau blaenorol, tagio'ch hoff erthyglau
• Cael y wybodaeth ddiweddaraf: derbyn ffrwd RSS a rhybuddion e-bost pan fydd cynnwys newydd yn cael ei gyhoeddi
• Cael mwy o gynnwys: gweld erthyglau yn ogystal â rhagargraffiadau a newyddion
• Rhyngweithio a rhannu: gosod nodau tudalen cymdeithasol er mwyn rhannu erthyglau
• Darganfod ymchwil cysylltiedig: archwilio erthyglau perthnasol yn seiliedig ar godau dosbarthu pynciau
• Ei wneud yn bersonol: addasu eich rhybuddion, arbed erthyglau o ddiddordeb, a gweld erthyglau sydd newydd eu cyhoeddi o fewn eich meysydd pwnc"
"Ar hyn o bryd mae MathWorld yn cynnwys nifer o elfennau rhyngweithiol arloesol sy'n golygu ei fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer amrywiaeth o wahanol ddarllenwyr. Mae'r nodweddion hyn yn cynnwys:
• MathWorld Classroom, sy'n rhoi set o "grynodebau capsiwl" o fwy na 300 o dermau mathemategol.
• Mynegai cyfeiriol helaeth i lyfrau ac erthyglau cyfnodolion, llawer ohonynt yn hyperddolenni gweithredol.
• Miloedd o lyfrau nodiadau Mathematica y gellir eu lawrlwytho.
• Sawl math o gofnodion rhyngweithiol, gan gynnwys Rhaglennig LiveGraphics3D ar gyfer geometreg tri dimensiwn rhyngweithiol.
• Metadata Dublin Core a Dosbarthiad Pwnc Mathemateg ym mhenawdau HTML pob tudalen.
• Gwybodaeth arbennig ar gyfer defnyddwyr Mathematica ."
Yn cynnwys casgliad mawr o gyhoeddiadau Mathemateg, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
Gellir dod o hyd i restr lawn o'r cronfeydd data a ddarperir gan Brifysgol Aberystwyth yma
American Chemical Society (ACS) Journals Search
American Society for Microbiology (ASM) Journals
Cambridge Core (Journals and Books)
Directory of Open Access Journals (DOAJ)
Highwire Press (free papers)
Highwire Press (all titles browse)
PLoS Public Library of Science Journals
Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.
Gallwn gefnogi staff a myfyrwyr gydag ymchwil a dysgu trwy leoli a chyflenwi llyfrau, penodau ac erthyglau a gedwir gan lyfrgelloedd eraill.
Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar yr arian sydd ar gael.
Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ac i weld sawl cais am ddim fedrwch ei gyflwyno, ewch i'r dudalen yma.