Mae rhestr ddarllen ar gyfer modiwl fel rheol yn cynnwys rhestr o lyfrau a ffynonellau gwybodaeth eraill a gasglwyd gan gynllunydd y modiwl i gynorthwyo eich astudiaeth o'r modiwl hwnnw.
Cewch hyd i'r rhestr ddarllen ar gyfer modiwl yr ydych yn ei astudio yn Blackboard.
Mewngofnodwch, ewch i'r modiwl a chliciwch ar y ddolen Rhestr Ddarllen Aspire yn y ddewislen ar y chwith,
Neu ymwelwch ag Aspire a chwilota am fodiwl drwy teiptio teitl a/neu gôd y modiwl
Os ydych chi'n dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu os ydych chi'n ddarpar fyfyriwr, ewch i dudalennau modiwlau PA ac ar dudalen unrhyw un o'r modiwlau:
cliciwch ar Gweld yn Aspire i weld rhestr ddarllen ar gyfer modiwl presennol
cliciwch ar Gweld enghraifft o restr yn Aspire i weld enghraifft o restr ar gyfer modiwl a fydd yn cael ei ddysgu yn y dyfodol
neu ewch i Aspire a chwiliota am fodiwl drwy teipio teitl a/neu gôd y modiwl
Primo yw catalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Yn Primo gallwch chwilio am lyfrau, erthyglau, traethodau ymchwil a deunyddiau eraill yng nghasgliad y llyfrgell o adnoddau printiedig ac electronig. I gael y canlyniadau gorau o Primo, bydd angen i chi mewngofnodi.
Mae ein Cwestiynau a Holir yn Aml am Primo yn llawn o wybodaeth defnyddiol. Cymrwch olwg arnynt y fan hyn.