COVID-19 Diweddariad o'r Llyfrgell
Helo, Lloyd Roderick ydw i, y llyfrgellydd pwnc ar gyfer yr adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Diben y dudalen hon yw eich helpu i gael y gorau o’n hadnoddau ym maes Cymraeg a cheltaidd. Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydw i yma i’ch helpu!
Os oes angen llyfr arnoch, ond methu cael mynediad iddo, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau:
Byddwn yn prynu fersiwn electronig os oes un ar gael.
Cwestiynau a holir yn aml
Gwybodaeth ddefnyddiol i staff a myfyrwyr sy'n gweithio ac astudio o adref.
Great to book to help het those referencing marks!!
Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.
Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.
Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).