Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: Llyfrau ac e-lyfrau

Lleoliadau’r Silffoedd

Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Theatr, Ffilm a Theledu yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F (llawr uchaf):

PN Llenyddiaeth Gyffredinol
PN1560-PN1590 Y Celfyddydau Perfformiadol
PN1600-PN3307 Drama
PN1990-PN1992.92 Darlledu
PN1993-PN1999 Astudiaethau Ffilm
PN2000-PN3307 Y Theatr
PR Llenyddiaeth Saesneg
PS Llenyddiaeth Americanaidd
Z Llyfryddiaeth printiedig
Cyfnodolion wedi’u hargraffu

Y mae hefyd adran dechnegol ar gyfryngau newydd yn TK ar Lefel E (llawr canol).

Cynlluniau Llawr ac Oriau Agor y Llyfrgell

Oriau Agor

 Llyfrgell Hugh Owen

Oriau craidd: 09:00-17:00 dydd Llun-Gwener

  • Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig ystod lawn o wasanaethau a chymorth rhwng 09:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor a’r gwyliau (ag eithrio pan fydd y llyfrgelloedd ar gau).
  • Yn ystod awr hyfforddi staff, rhwng 09:00-10:00 ar ddydd Mercher, rydym yn cynnig gwasasnaethau hunan-wasanaeth / defnydd cyfeiriadol

Gwasanaethau wedi eu staffio: 08.30-22:00

  • Noder: y tu allan i oriau craidd ein gwasanaeth rhwng 09: 00-17: 00, Llun-Gwener, efallai bydd angen atgyfeirio rhai ymholiadau.

Hunan-wasanaeth /defnydd cyfeiriadol: 22:00-08:30

ein horiau agor ar gael yma

Disgrifiad o’r Llyfrgell

Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol gwasanaethau'r llyfrgell. Wedi ei lleoli ar gampws Penglais [Lleoliad], mae'n darparu man ar gyfer astudio, pa un ai ydych am astudio'n dawel ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Darperir amrywiaeth o adnoddau i roi help llaw gyda'ch astudiaethau ac ar gyfer ymlacio mewn man tawel.

Primo Search

Search In Primo