Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: Deunydd ddim ar gael?

Pan nad yw adnodd ar gael yn y Llyfrgell

Fe welwch y bydd adegau pan na fydd yr adnodd chi angen ei ddefnyddio ar gael o gasgliadau'r llyfrgell. Yn y senario hwn mae nifer o opsiynau ar gael i chi i geisio cael gafael ar y deunyddiau sydd eu hangen arnoch chi:

  • Ad-alwch y llyfr os yw ar fenthyg
  • Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau
  • Mwy o Lyfrau
  • Gwasanaeth digido pennod o lyfr
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Cynllun Sconul Access

Llyfr ar fenthyg

white book marker on book page

Os yw pob copi ffisegol o'r eitem sydd ei angen arnoch ar fenthyg, rhowch gais amdano yn Primo. Gallwch hefyd wneud cais i fenthyg cyfnodolyn dros nos.

Cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais am lyfr neu gyfnodolyn: https://faqs.aber.ac.uk/en/814

Digideiddio pennod

Mae'r Llyfrgell yn cynnig gwasanaeth digido penodau ar gais i fyfyrwyr a staff i gefnogi eich astudiaethau ac ymchwil. 

Darganfyddwch fwy a chwblhewch y ffurflen gais ar-lein yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/digitisation/chapterdigitisation/ 

Cyflenwi Dogfennau

Mae gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.

Mwy o wyboaeth am y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Fel llyfrgell adnau cyfreithiol, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw dros 7 miliwn o lyfrau sydd ar gael i’w defnyddio. Gallwch chwilio’r catalog llyfrgell ar-lein i ddod o hyd i gasgliadau. Fe welwch ragor o wybodaeth ynghyd â rhestr o adnoddau ar dudalen Adnoddau LlGC.

Mwy o lyfrau

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r llyfr 'rydych yn chwilio amdano yn y llyfrgell, gallwch wneud cais amdano trwy'r ymgyrch ​Mwy o Lyfrau (Myfyrwyr yn unig). Bydd pob llyfr sy'n cael ei archebu drwy'r ymgyrch yn cael ei osod yng nghasgliad y llyfrgell.

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma.

SCONUL Access

Mae SCONUL Access yn gynllun sy’n galluogi i nifer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd prifysgolion fenthyca neu ddefnyddio llyfrau a chyfnodolion mewn llyfrgelloedd eraill sy’n rhan o’r cynllun.

Mae'r cynllun yn cwmpasu'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd prifysgolion y DU ac Iwerddon.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, pwy sy’n gymwys, a sut mae’n gweithio, ewch i: https://www.sconul.ac.uk/sconul-access