Mae gwybodaeth ar ein gwasanaeth Clicio a Chasglu, a rhai gwasanaethau cyfyngedig eraill, ar gael ar https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac. Os gwelwch yn dda, darllenwch y dudalen hon yn ofalus cyn defnyddio’r gwasnaeth. Yr ydym yn dibynnu arnoch chi i ddilyn ein rheoliadau newydd a amlinellir ar y dudalen er mwyn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Mae'r gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael yn ddyddiol rhwng 13:00-17:00 ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ynglŷn â defnyddio’r Gwasanaeth ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin Clicio a Chasglu.
Ceir mwy o wybodaeth ar eich diogelwch wrth ddefnyddio'r gwasanaeth Clicio a Chasglu drwy fynd i'r dudalen we yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/cac/
Cwestiynau a holir yn aml
Gwybodaeth ddefnyddiol i staff a myfyrwyr sy'n gweithio ac astudio o adref.
Lluniwyd y tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau ar gyfer Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Os oes angen llyfr arnoch, ond methu cael mynediad iddo, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau:
Byddwn yn prynu fersiwn electronig os oes un ar gael.
Rydym wedi bod yn brysur yn darparu mynediad i adnoddau, cefnogaeth a chyngor ar-lein i chi. Mae'r tabiau canlynol yn dangos pa wasanaethau sydd ar gael a pha rai sydd ddim ar gael eto.
AM DDIM – e-lyfrau ac adnoddau eraill ar-lein sydd ar gael ichi dros-dro gan gyhoeddwyr academaidd, ac eraill. Peidiwch ag anghofio chwaith bod eich llyfrgelloedd cyhoeddus a chenedlaethol yn adnoddau rhyfeddol ar-lein.
A oes gennych gwestiynau am e-lyfr sydd ei angen arnoch neu ydych chi angen cyngor ar gyfer chwilio am adnoddau’r llyfrgell o’ch cartref?
Rwy’n gweithio gartref felly gallwch gysylltu â mi fel arfer trwy e-bostio jrc@aber.ac.uk neu ffonio 01970621908 neu trwy drefnu apwyntiad ar Skype/MS Teams yn https://libcal.aber.ac.uk/