Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cyfrifiadureg: Cyfnodolion ac Erthyglau

Cyfnodolion ac Erthyglau

Cyhoeddiad yw cyfnodolyn sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol sy'n gallu cynnwys detholiad o erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Cyhoeddir cyfnodolion yn reolaidd, megis yn wythnosol, misol neu chwarterol. Mae pob copi yn rifyn ac mae set o rifynnau yn gwneud cyfrol (fel arfer, mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân). Gelwir cyfnodolion weithiau yn gylchgronau. Unrhyw beth a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y rhif dosbarth, golyga hyn ei fod yn gyfnodolyn. Gallant fod ar gael mewn fformat print, ar-lein neu'r ddau.

Pam defnyddio erthyglau?

  • Maent yn ffynonellau pwysig ar gyfer gwybodaeth pwnc neu ymchwil.
  • Gwybodaeth am ddatblygiadau cyfredol.
  • Cyhoeddir erthyglau cylchgrawn yn gyflymach na llyfrau, felly gallant fod yn fwy cyfredol.
  • Maent yn aml yn ymdrin â phwnc yn fanwl ac yn cynnwys ymchwil gwreiddiol.

Chwilota am erthyglau cyfnodolion

Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.

Rhai Cyfnodolion Academaidd ym maes Cyfrifiadureg

Cyfnodolion Cyfredol

Gallwch ddod o hyd i gylchgronau printiedig cyfredol a hŷn mewn Cyfrifiadureg yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. Mae llawer o gyfnodolion hefyd ar gael      ar-lein trwy Primo.

E-cyfnodolion

Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o gyfnodolion electronig.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am adnoddau electronig y fan yma.

Ymwelwch â'r Cwestiynau a Holir yn Aml am e-gyfnodolion (Saesneg yn unig - aros am gyfieithiad).

Cronfeydd Data Allweddol

Cymdeithas Gyfrifiadurol (IEEE)

"Cymdeithas Gyfrifiadurol IEEE yw sefydliad aelodaeth flaenllaw'r byd sy'n ymroddedig i gyfrifiaduron a thechnoleg. Mae'r Llyfrgell Ddigidol yn dal mwy na 550,000 o erthyglau a phapurau ar gyfrifiadureg a thechnoleg."

Llyfrgell Ddigidol ACM

Gwefan ymchwilio, darganfod a rhwydweithio yw hwn ac mae'n darparu mynediad i gasgliad testun llawn bob cyhoeddiad ACM, a mynediad at gronfa ddata llyfryddol sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gyfrifiaduron.

CiteSeerX

"Llyfrgell ddigidol a pheiriant chwilio sydd wedi canolbwyntio'n bennaf ar y llenyddiaeth mewn cyfrifiadureg a gwyddoniaeth gwybodaeth. Mae CiteSeerx yn anelu at wella lledaeniad llenyddiaeth wyddonol ac i ddarparu gwelliannau mewn ymarferoldeb, defnyddioldeb, argaeledd, cost, cynhwysedd, effeithlonrwydd a phrydlondeb yn y mynediad i wybodaeth wyddonol ac ysgolheigaidd."

Lecture Notes in Computer Science

"Ar y tudalennau hyn fe gewch chi adnoddau defnyddiol, cefnogaeth a chyngor ar sut i gyhoeddi yn LNCS, gan gynnwys opsiynau mynediad agored. Gallwch chwilio ac archwilio cynnwys LNCS - gyda mwy na 10,000 o (e)lyfrau  wedi'u cyhoeddi hyd yma - fesul flwyddyn, trafodion sydd ar ddod , arolygon byd-eang LNCS, sesiynau tiwtorial, is-lyfrgelloedd cyfoes, a mwy".

Cymdeithas Cyfrifiadur Prydain

Gwefan Sefydliad TG Siartredig. Mae'n hwyluso cyfnewid gwybodaeth a syniadau. Yn cefnogi ymarferwyr trwy gefnogaeth ymarferol a chyfleoedd gwybodaeth. Sefydlu cod ymddygiad, fframweithiau sgiliau. Hefyd corff dyfarnu byd-eang ar gyfer TG.

Dictionary of Algorithms and Data Structures (NIST)

"Mae hwn yn eiriadur o algorithmau, technegau algorithmig, strwythurau data, problemau archdeipaidd, a diffiniadau cysylltiedig. Mae algorithmau yn cynnwys swyddogaethau cyffredin, megis swyddogaeth Ackermann. Mae problemau yn cynnwys gwerthwr teithio a chadfridogion Byzantine. Mae gan rai cofnodion gysylltiadau â gweithrediadau a mwy o wybodaeth.

Mae rhestr lawn o'r cronfeydd data y mae Prifysgol Aberystwyth yn eu darparu ar gael yma

Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau

Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.

Gallwn gefnogi staff a myfyrwyr gydag ymchwil a dysgu trwy leoli a chyflenwi llyfrau, penodau ac erthyglau a gedwir gan lyfrgelloedd eraill.

Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar yr arian sydd ar gael.

Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ac i weld sawl cais am ddim fedrwch ei gyflwyno, ewch i'r dudalen yma.

FAQ - Sut ydw i'n cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws

Primo - Catalog y llyfrgell

Chwilio Primo