Galluoedd Digidol yw’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymarfer sydd yn ein paratoi i fyw, dysgu a gweithio yn ddiogel ac effeithiol mewn cymdeithas ddigidol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth, datrys problemau, cyfathrebu ar-lein a deall sut i feithrin perthynas iach gyda thechnoleg.
Mae’n bwysig i bob myfyriwr fod yn abl a hyderus yn ddigidol. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn gallu ffeindio’ch ffordd trwy gymdeithas ddigidol sy’n datblygu’n gyson, llwyddo yn eich astudiaethau, a chystadlu’n llwyddiannus am swyddi yn y dyfodol.
Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i gael gwybod mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.
Casgliad o lyfrau a gynlluniwyd i’ch helpu chi astudio yw’r Casgliad Astudio Effeithiol. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau. Mae’r deunydd ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai hynny nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Bydd y Casgliad Astudio Effeithiol yn eich helpu i:
Lleoliad
Lleolir y Casgliadau Astudiaeth Effeithiol ar Lawr F Llyfrgell Hugh Owen ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.
Mae pob eitem yn y Casgliad Astudio Effeithiol yn cael ei hychwanegu at gatalog y Llyfrgell, Primo, ac maent yn cynnwys y rhagddodiad STUDY yn y nod dosbarth.