Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

YGFA: Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth: Lle gallaf ddod o hyd i gyfnodolion ac erthyglau ar gyfer fy nghwrs yn y llyfrgell?

Map llawr ar-lein

Edrychwch ar y map llawr a'r canllaw llyfrgell i'ch helpu i lywio Llyfrgell Hugh Owen a dod o hyd i'ch llyfrau ac adnoddau eraill ar y silffoedd.

  • Porwch y map ar-lein yn libraryfloormap.aber.ac.uk i ddarganfod beth sy'n lle, cael mwy o wybodaeth am adnoddau a gofodau'r llyfrgell ac ymgyfarwyddo â'r cynllun – peidiwch byth â mynd ar goll eto!
  • Mae yna hefyd ciosgau map llawr ar bob llawr o'r llyfrgell.

Mae Map Llawr y Llyfrgell wedi'i integreiddio â Primo, catalog y llyfrgell. Pan fyddwch yn edrych ar eich eitem yn Primo, cliciwch ar ddolen Map Llawr y Llyfrgell i agor y map a bydd y silffoedd lle mae eich eitem wedi'i lleoli yn cael eu hamlygu.

Cyfnodolion print

Fe welwch gyfnodolion ar eich cwrs:

  • fel copïau ffisegol/print yn Llyfrgell Hugh Owen ac/neu
  • ar-lein fel e-gyfnodolion

Fe welwch erthyglau ar eich cwrs:

  • fel copïau ffisegol/print o fewn y cyfnodolyn print yn Llyfrgell Hugh Owen ac/neu
  • ar-lein fel erthyglau testun llawn

Bydd cyfnodolion Gwyddor Milfeddygol a Nyrsio Milfeddygol print wedi'u lleoli ar Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen.

Sut i ddod o hyd i gyfnodolion ac e-gylchgronau yn Primo

Byddwch hefyd yn dod o hyd i lawer o gyfnodolion ar gael mewn print ac ar-lein fel e-gyfnodolion.

Gallwch gael mynediad i'r rhain trwy Primo. 

I ddod o hyd i gylchgronau ac e-gylchgronau yn Primo:

  • Cadwch y chwiliad fel y chwiliad LLYFRGELLOEDD diofyn 
  • Rhowch ychydig o eiriau allweddol neu deipiwch deitl y cyfnodolyn

Beth ydw i'n chwilio amdano yn Primo?

Sut ydw i'n dod o hyd i gyfnodolion yn Primo?

Lle gallaf gael gwybod am reolau hawlfraint ar gyfer fy nefnydd e-gyfnodolion?

Sut i ddod o hyd i e-erthyglau

Byddwch hefyd yn dod o hyd i lawer o erthyglau ar gael ar-lein fel e-erthyglau. Gallwch gael mynediad i'r rhain trwy Primo.  

I ddod o hyd i erthyglau yn Primo:

  • wrth ymyl y prif flwch chwilio ar Primo, newidiwch y chwiliad yn y gwymplen i ERTHYGLAU
  • Rhowch ychydig o eiriau allweddol neu deipiwch deitl yr erthygl

Beth ydw i'n chwilio amdano yn Primo?

Sut ydw i'n dod o hyd i erthyglau testun llawn yn Primo?

Sut ydw i'n dod o hyd i erthyglau testun llawn mewn cyfnodolion rydw i wedi'u canfod yn Primo neu rywle arall?

Sut ydw i'n dod o hyd i erthyglau testun llawn gan ddefnyddio cronfeydd data llyfryddiaethol?

Libkey Nomad - beth mae hyn yn ei wneud?