Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

LibGuide i rai sy'n dysgu: Canfod adnoddau ar gyfer eich modiwlau

Polisi rhestrau darllen

Ychwanegu gwaith darllen at Restrau Darllen Aspire yw'r unig ffordd y gall staff dysgu wneud cais am lyfrau a deunyddiau dysgu eraill ar gyfer modiwlau a addysgir. Bydd angen ichi ychwanegu rhestrau darllen eich modiwlau at Aspire erbyn y terfynau amser hyn i sicrhau bod modd i staff llyfrgell PA ddod o hyd i lyfrau a deunyddiau dysgu eraill cyn i’r dysgu ddechrau. Yna bydd staff llyfrgell PA yn gwirio, prynu a digideiddio eitemau ar gyfer stoc y llyfrgell yn unol â’r Polisi Rhestrau Darllen.

Beth sydd angen imi ei wybod…?

Cyn creu rhestr ddarllen newydd yn Aspire, darllenwch y Cwestiwn Cyffredin hwn i sicrhau bod gennych yr wybodaeth angenrheidiol.

Cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc trwy e-bostio llyfrgellwyr@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i drefnu ymgynghoriad personol ynglŷn â rhestrau darllen.

A all y Llyfrgell brynu e-lyfr ar gyfer fy modiwl?

Os ydych eisiau e-lyfr i'ch cwrs, cofiwch ei ychwanegu at eich rhestr ddarllen Aspire a nodi ei fod yn Hanfodol o ran ei bwysigrwydd.

Nid oes sicrwydd y gall y Llyfrgell brynu un ar gyfer eich modiwl; mae'n dibynnu ar y canlynol:

  •  A yw'r teitl ar gael i'w brynu gyda thrwydded sefydliadol? Er enghraifft, ni all y Llyfrgell brynu llyfr Kindle ar gyfer modiwl gan nad oes ganddi drwydded ar gyfer ei rannu. Hyd yn oed pan all y Llyfrgell brynu e-lyfr a'i rannu, gall fod cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr sy'n gallu defnyddio’r e-lyfr ar yr un pryd
  • Faint mae'n ei gostio? Mae llawer o’r e-lyfrau sydd eu hangen mor ddrud fel na ellir sicrhau eu prynu. Cewch fwy o wybodaeth ar yr Ymgyrch i ymchwilio i'r farchnad e-lyfrau academaidd, neu fel mae'n fwy cyfarwydd #ebooksos

Pam na allaf ddigideiddio'r gwaith darllen ar gyfer fy modiwl?

Peidiwch â llwytho pennod neu erthygl wedi'i digideiddio'n bersonol i'ch modiwl Blackboard. Gallwch ofyn i benodau ac erthyglau gael eu digideiddio ar ôl i chi eu hychwanegu at eich rhestr ddarllen Aspire.

Bydd staff y llyfrgell yn sicrhau bod pob pennod sydd wedi'u sganio o lyfrau ac erthyglau o gyfnodolion yn cydymffurfio'n llwyr â thelerau ac amodau trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint. Bydd staff y llyfrgell hefyd yn sicrhau cydymffurfiaeth drwy greu detholiadau o ansawdd uchel a phroffesiynol, a llwytho dolenni at y copi digidol yn uniongyrchol i’r rhestr ddarllen Aspire.

Anfonwch e-bost at y Gwasanaeth Digideiddio ar digideiddio@aber.ac.uk - os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch gyda cheisiadau digideiddio.

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan y Gwasanaeth Digideiddio.