Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

LibGuide i rai sy'n dysgu: Staff dysgu newydd

Trefnwch sesiwn ragarweiniad gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc

Mae croeso i chi drefnu cyfarfod gyda'ch Llyfrgellwyr Pwnc er mwyn cael eich cyflwyno i adnoddau’r llyfrgell a’r gwasanaethau sydd ar gael i staff dysgu a myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys cael gafael ar lyfrau a ffynonellau eraill i gefnogi eich gwaith dysgu a chyflwyniad i gatalog y llyfrgell (Primo) a’r adnoddau sydd eisoes ar gael yn eich pwnc.

Gwybodaeth am eich Pwnc

Dewch i ddarganfod adnoddau a gwybodaeth am eich pwnc a ffynonellau lle cewch ragor o gyngor a chymorth.

Llyfrgelloedd / Oriau agor

Llyfrgell Hugh Owen

Llyfrgell Hugh Owen yw prif Lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Oriau Agor

Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Mae Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol i’w chanfod ar 4ydd Llawr adeilad y Gwyddorau Ffisegol ar Gampws Penglais.

Oriau Agor

Teithiau o amgylch y Llyfrgell

Rydym yn cynnig teithiau o amgylch y llyfrgell trwy gydol y flwyddyn. Mae pob taith yn para hyd at 30 munud a’r bwriad yw

  • eich croesawu i'ch llyfrgell a'ch cynorthwyo i ddysgu eich ffordd o gwmpas
  • rhoi cyflwyniad cryno i’r adnoddau a’r gwasanaethau sydd ar gael yn y Llyfrgell
  • sicrhau eich bod yn gwybod lle i gael cymorth a chefnogaeth

Cysylltwch â'n Llyfrgellwyr Pwnc i drefnu apwyntiad.

Dyma deithiau rhithiol o amgylch Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol: