Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.
Mae erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid wedi cael eu hadolygu a’u derbyn gan arbenigwyr yn eu maes cyn cael eu cyhoeddi. Mae hyn yn sicrhau bod y cyfnodolion yn cadw eu henw da a bod ansawdd yr ymchwil yn cael ei gynnal.
Defnyddiwch yr hidlydd yn Primo i chwilio yn ôl 'Wedi’u Hadolygu gan Gymheiriaid' neu chwiliwch Emerald Insight i ddarganfod erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid yn unig.