Skip to Main Content

Language Toggle

Chat now
Sgwrsiwch nawr

Myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen: Llyfrau ac e-lyfrau

Benthyca o'r Llyfrgell

Mae holl staff a myfyrwyr y Brifysgol yn medru benthyca hyd at 40 llyfr ar un amser.

Gallwch benthyca'r rhan fwyaf o lyfrau am wythnos, ac fe fydd y rhain yn cael eu adnewyddu yn awtomatig bob wythnos naill ai tan bod defnyddiwr arall eisiau'r llyfr, neu tan fydd y llyfr wedi bod ar fenthyg am 6 mis.

Ni fyddwch yn cael dirwy oni bai nad ydych yn dychwelyd llyfr â adelwir gan ddefnyddiwr arall, neu os nad ydych yn dychwelyd y llyfr i'r llyfrgell ar ôl 6 mis.

Primo - Catalog y llyfrgell

Chwilio Primo

Llyfrau yn y Llyfrgell

I ddarganfod a oes llyfr penodol ar gael yn y Llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Llyfrau yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig neu hidlo'r canlyniadau yn fwyfwy i ateb eich gofynion.

Llyfr ar gael
Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth.

Llyfr ar fenthyg

Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn.

Ad-alw llyfr

Medrwch ad-alw llyfr yn ôl os yw ar fenthyg. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ad-alw  y fan yma. 

 

Mynediad Ar-lein

Pan fydd mynediad ar-lein ar gael i lyfr electronig, bydd Primo yn nodi hyn fel y ganlyn:

FAQ - Sut ydw i'n cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws

Gallwch ddod o hyd i’r rhain a mwy yn y llyfrgell

Chwiliwch Primo i ddod o hyd i deitlau pellach neu porwch trwy’r Casgliad Astudio Effeithiol ar Lawr F Hugh Owen.