Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwyddorau Bywyd ac AGBAG (IBERS): Cyflwyniad - Cefnogaeth gan eich Llyfrgellydd

Croeso!

Helo! Fy enw i yw Non Jones a fi yw eich Llyfrgellydd Pwnc. 

Rydw i yma i'ch helpu chi gyda...

  • Defnyddio'r llyfrgell yn effeithiol
  • dod o hyd i lyfrau ac erthyglau priodol ar gyfer eich aseiniadau, adolygu ac ymchwil
  • Cyfeirio a dyfynnu 
  • hyfforddiant sgiliau gwybodaeth, cymorth pwnc manwl a
  • Unrhyw ymholiad llyfrgell arall!

Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i gael y gorau o'n hadnoddau a'n gwasanaethau llyfrgell ar gyfer eich astudiaethau mewn Gwyddorau Bywyd ac AGBAG (IBERS).

Os nad wyf ar gael ac mae eich ymholiad yn un brys, cliciwch yma i wneud apwyntiad gydag aelod arall o dîm y llyfrgell, neu e-bostiwch llyfrgellwyr@aber.ac.uk

*Rwy'n gweithio'n rhan-amser: dydd Llun i ddydd Iau, 08:00-14:00 

       

   Trefnwch apwyntiad gyda fi

Manylion cyswllt

Profile Photo
Non Jones
Manylion cyswllt:
nrb@aber.ac.uk

Trefnwch apwyntiad gyda fi

 Trefnwch apwyntiad gyda fi

Trefnwch gyfarfod ar-lein neu wyneb yn wyneb gyda mi i gael sgwrs am eich ymholiad llyfrgell.

  • Cliciwch ar y ddolen Trefnwch apwyntiad gyda fi
  • Dewiswch eich lleoliad
    • ar-lein drwy Teams neu
    • wyneb yn wyneb yn Llyfrgell Hugh Owen
  • Dewiswch ddyddiad ac amser a ffefrir
  • Bydd e-bost cadarnhau yn cael ei anfon atoch gyda'r manylion

Sesiynau galw-heibio wyneb-yn-wyneb Llyfrgell Hugh Owen

LLYFRGELL HUGH OWEN

Rwy'n cynnig sesiynau galw heibio wyneb-yn-wyneb:

dydd Llun, 12:00 - 14:00

Desg Ymholiadau Lefel F 

Llyfrgell Hugh Owen 

(yn ystod tymor yn unig)

Sesiynau galw-heibio wyneb-yn-wyneb Gogerddan

GOGERDDAN

Rwy'n cynnig sesiynau wyneb-yn-wyneb galw heibio ym mhrif fynedfa Gogerddan.

Bydd neges yn cael ei anfon i staff a myfyrwyr Gogerddan gyda dyddiadau ac amseroedd y sesiwn galw heibio (yn ystod y tymor yn unig).

Mae croeso i chi e-bostio eich ymholiad i mi [nrb@aber.ac.uk] neu i drefnu apwyntiad: Trefnwch apwyntiad gyda fi

Blog y Llyfrgellwyr

Tanysgrifiwch i Blog y Llyfrgellwyr i dderbyn newyddion am weithgareddau'r Llyfrgellwyr Pwnc

Loading ...

Dilynwch ni

Dilynwch Gwasanaethau Gwybodaeth

 

 

Cyfryngau cymdeithasol

 

Blogiau