Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau ymchwil a hen bapurau arholiad. Efallai y bydd y rhain yn ddefnyddiol i chi:
Fel llyfrgell adnau cyfreithiol, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw dros 7 miliwn o lyfrau sydd ar gael i’w defnyddio. Gallwch chwilio’r catalog llyfrgell ar-lein i ddod o hyd i gasgliadau. Fe welwch ragor o wybodaeth ynghyd â rhestr o adnoddau ar dudalen Adnoddau LlGC.
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn rhoi benthyg e-lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-gylchgronau. Edrychwch ar wefan eich llyfrgell gyhoeddus am wybodaeth ac i weld beth sydd ar gael.