Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Mathemateg: Cyfeirio

Cyfeirio

Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cyfeirio’n gywir a chyson.

Edrychwch ar ganllaw’r Adran ei hun  https://www.aber.ac.uk/en/aberskills/academic-practice/#departmental-reference-guides (Saesneg yn unig - aros am gyfieithiad) a’r adnoddau eraill sydd ar gael isod.

Cysylltwch â Non, eich Llyfrgellydd Pwnc os oes angen rhagor o gyngor neu gymorth.

Cefeirnodi Da

Un o nodweddion pwysicaf ysgrifennu academaidd yw cydnabod llyfrau, erthyglau cyfnodolion a ffynonellau gwybodaeth eraill rydych wedi’u defnyddio yn eich gwaith, fel arfer drwy gyfeirio atynt yn eich aseiniad a rhestru pob un ar y diwedd mewn llyfryddiaeth. Yn aml iawn, fe gewch farciau am wneud hyn yn gywir felly mae’n sgil sy’n werth ei dysgu cyn gynted ag y gallwch.

Os na fyddwch yn cydnabod eich ffynonellau mae’n bosib y byddwch yn cyflwyno syniadau neu ddyfyniadau rhywun arall fel eich rhai chi eich hun. Llên-ladrad yw hynny; nid yw’r Brifysgol yn caniatáu hyn a gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.

Cewch wybod mwy ar y dudalen hon am lên-ladrad a chyfeirnodi: Marciau gwell efo cyfeirnodi da.

Cyrsiau rhad ac am ddim

Mae yna nifer o gyrsiau rhad ac am ddim y gallech fynd arnynt sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyfeirio. Cliciwch ar y linciau isod a phorwch drwy'r rhestr cyrsiau.

Cyrsiau israddedig rhad ac am ddim.
Cyrsiau uwchraddedig rhad ac am ddim

Cwrs Ar-lein

Cwblhewch y cwrs ar-lein   ‘Osgoi Llên-ladrata’

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar: https://www.epigeum.com/courses/studying/avoiding-plagiarism/

  • Mae’n rhaid i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost @aber.ac.uk yn llawn wrth gofrestru.
  • Dewiswch gyfrinair.
  • Byddwch yn cael e-bost gan Epigeum i ysgogi eich cofrestriad (efallai y bydd angen i chi gopïo a gludo’r ddolen i’ch porwr).
  • Mewngofnodwch i Epigeum gyda’ch cyfeiriad e-bost llawn a’r cyfrinair yr ydych wedi’i osod. Pan fyddwch wedi mewngofnodi’n llwyddiannus bydd Epigeum yn dangos y cyfarchiad 'Hi'.
  • Cliciwch ar Cyrsiau Ar-lein i ddod o hyd i’r cwrs Osgoi Llên-ladrata.
  • Dilynwch y Cwestiwn a Ofynnir yn Aml canlynol am rhagor o gymorth: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?search=2762

Primo - Catalog y llyfrgell

Chwilio Primo

Gallwch ddod o hyd i’r rhain a mwy yn y llyfrgell

Chwiliwch Primo i ddod o hyd i deitlau pellach neu porwch trwy’r Casgliad Astudio Effeithiol ar Lawr F, Llyfrgell Hugh Owen.