Nod y canllaw hwn yw eich helpu chi i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich traethawd hir ac i reoli’r wybodaeth honno.
Ar ôl dilyn y canllaw hwn byddwch yn gallu:
deall proses traethawd hir
mynd ati’n effeithiol i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich traethawd hir
adnabod a defnyddio cronfeydd data
datblygu eich technegau chwilio, dewis termau/ymadroddion chwilio a llunio strategaeth chwilio
gwerthuso gwybodaeth
nodi a dewis cyfeirnodau/cyfeiriadau perthnasol ar gyfer eich traethawd hir
rheoli a fformatio’r cyfeirnodau rydych chi wedi’u casglu