Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Newyddion a'r Cyfryngau: 8. Pwysigrwydd gwerthuso gwybodaeth a gwirio ffeithiau

Cyflwyniad

Yn y gymdeithas sydd ohoni, lle mae toreth o wybodaeth, mae'n hanfodol cofio nad yw ffynonellau o wybodaeth yn gyfartal â'i gilydd!

Pan chwiliwch am wybodaeth, ymchwilydd ydych chi. Fel ymchwilydd, mae'n rhaid pwyso a mesur y wybodaeth y dewch o hyd iddi, a phenderfynu a yw'r deunydd yn:

  • ysgolheigaidd
  • cywir
  • awdurdodol

Ynghyd â defnyddio gwybodaeth, chwilio amdani a dod o hyd iddi, mae'n hanfodol cloriannu gwybodaeth. Mae'n bwysig pwyso a mesur yn ofalus y ffynonellau a ddewiswch. Ystyriwch beth rydych yn chwilio amdano a pham. Po fwyaf credadwy yw'ch ffynonellau, mwyaf credadwy yw'ch dadl.

Mae'r tudalen hwn yn edrych ar y cwestiynau y dylech eu gofyn i chi'ch hun am y ffynonellau rydych yn chwilio amdanynt a dod o hyd iddynt. Nawr chi fydd y cloriannwr.

Gallwch ddefnyddio:

  • Prawf “CCAPP” ("CRAAP" yn Saesneg) a
  • a'r "5 P" i ofyn cwestiynau am wefannau, llyfrau neu erthyglau.

Pam y mae hi'n bwysig cloriannu'ch ffynonellau?

Pan fyddwch yn ymchwilio, mae angen dod o hyd i'r wybodaeth orau er mwyn ategu'ch syniadau, eich trafodaethau a'ch dadleuon. Mae hyn yn gofyn am bwyso a mesur yn ofalus y wybodaeth rydych yn dod o hyd iddi.

Mae'n bwysig pwyso a mesur gwybodaeth. Bydd hynny'n sicrhau'ch bod chi:

  • yn dod o hyd i'r wybodaeth fwyaf perthnasol i'ch pwnc a'ch aseiniad

  • yn gwella ansawdd a dibynadwyedd eich ymchwil

  • yn dod o hyd i safbwyntiau arbenigol ac ymchwil a arolygwyd gan gyd-academyddion ar eich pwnc

  • yn datgelu a chwynnu gwybodaeth sydd â thuedd, sy'n annibynadwy neu’n anghywir

Bydd cloriannu gwybodaeth yn golygu y gallwch adnabod a diystyru gwybodaeth sydd:

  • yn annibynadwy

  • â thuedd

  • yn annheg

  • yn rhy hen i fod yn berthnasol

  • yn anghywir

  • yn annilys

  • yn ffug

Gwerthuso gwefannau a delweddau

Pan fyddwch yn chwilio am wybodaeth am y we, fe ddewch o hyd i lawer o wefannau a lluniau. Mae'n bwysig gwirio, cloriannu a dilysu'r hyn a welwch. Edrychwch drwy'r tabiau hyn i gael canllawiau defnyddiol ar beth i edrych amdano.

black smartphone near person

black flat screen computer monitor

Pan fyddwch yn chwilio am wybodaeth am y we, edrychwch ar yr e-gyfeiriad (URL) i asesu awdurdod y ffynhonnell. Hyd yn oed os yw'r wefan yn cael ei chynnal gan sefydliad swyddogol, bydd angen i chi ddilysu’r wybodaeth a roddir yno o hyd.

Mae un rhan o'r e-gyfeiriad yn dangos y math o barth:

.ac 

coleg addysg uwch neu brifysgol ym Mhrydain

.gov

asiantaeth neu gorff llywodraeth

.com

sefydliad masnachol.

.net

darparwr rhwydwaith

.org

sefydliad nid-er-elw

.int

rhyngwladol

.nhs

y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

.edu

coleg addysg uwch neu brifysgol yn Unol Daleithiau America

 

Dylech hefyd wirio'r elfennau isod:

Gwiriwch y darn Ynglŷn/Amdanom/'About' o'r wefan/sefydliad Methu gweld adran Ynglŷn/Amdanom/'About' neu heb gael llawer o wybodaeth yno? Gallai hyn fod yn arwydd nad yw'r sefydliad neu'r safle yn ddibynadwy.
Gwiriwch y wybodaeth Cyswllt/Cysylltwch â ni. Methu gweld adran Cyswllt/Cysylltwch â ni na dim byd am sut i anfon ymholiad i'r safle? Gallai hyn fod yn arwydd nad yw'r sefydliad neu'r safle yn ddibynadwy.
Gwiriwch olwg y tudalennau ar y wefan Sut olwg sydd ar y wefan? Os yw'r dyluniad i'w weld yn rhyfedd mewn rhyw fodd, gallai hyn fod yn arwydd bod rhywbeth o'i le.
Ai hysbysebion yw'r cyfan? Efallai y cewch rywfaint o hysbysebion ar wefan ond os cewch chi fwy o hysbysebion na gwybodaeth - gofynnwch i chi'ch hun, beth yw diben y wefan? Ai gwerthu rhywbeth i chi ynteu rhoi gwybodaeth i chi am eich pwnc?

Rhowch y prawf 'CCAPP' neu feini prawf y '5 P' i gloriannu gwefannau

turned-onsilver iMac

Arf ddefnyddiol wrth bwyso a mesur delweddau yw Google Images (https://images.google.co.uk/) lle gallwch wneud chwiliad delwedd wrthdro. Mae hyn yn enwedig o ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i'r artist neu'r sawl a greodd y ddelwedd ac am ddod o hyd i ddelweddau tebyg fel y gallwch weld sut y cawsant eu defnyddio. Mae hefyd yn effeithiol wrth ddangos sut y defnyddiwyd y ddelwedd ar-lein o'r blaen - ble a phryd.

  • Cliciwch ar lun y camera ar ochr dde'r bar chwilio
  • Cewch lanlwytho llun, neu gludo dolen gyswllt o we-gyfeiriad y llun rydych yn ei archwilio
  • Bydd Google Images yn chwilio am wybodaeth am y llun

Safleoedd gwirio ffeithiau

Cewch wella ansawdd eich ymchwil a'r hyn rydych yn dod o hyd iddo drwy wirio'ch ffeithiau a darganfod beth sy'n wir a beth sy'n ffug. Edrychwch ar y tabiau a'r safleoedd defnyddiol isod. 

Reality Check - BBC News 

https://www.bbc.co.uk/news/reality_check 

Mae BBC Reality Check yn wasanaeth gan newyddion y BBC sy'n ymroi i daflu goleuni ar newyddion a straeon ffug er mwyn dod o hyd i'r gwirionedd.

BBC Reality Check

FactCheckNI 

https://factcheckni.org

Y gwasanaeth cyntaf yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi'i neilltuo i wirio ffeithiau.

 

cropped-Logo-FactCheckNI-JPG.jpg

Full Fact 

https://fullfact.org

Bydd FullFact yn gwirio ffeithiau yr hyn y mae gwleidyddion, sefydliadau cyhoeddus a newyddiadurwyr yn ei ddweud, yn ogystal â deunydd ar-lein sy'n ymledu'n feirol.

Return to Fullfact.org homepage 

Hoaxy® by OSoMe (iu.edu)

https://hoaxy.osome.iu.edu

Er nad yw Hoaxy yn safle gwirio ffeithiau, mae'n wefan ddefnyddiol i ymweld â hi fel offer delweddu sy'n dangos sut mae newyddion ffug yn teithio ac ymledu.

Image result for hoaxy

LinkedIn 

https://gb.linkedin.com

 

Gellir defnyddio'r safle rhwydweithio proffesiynol hwn er mwyn gwirio cymwysterau ac arbenigedd awduron.

Image result for linkedin

Media Bias/Fact Check - Search and Learn the Bias of News Media

https://mediabiasfactcheck.com

Nod Media Bias/Fact Check yw dod o hyd i arferion twyllodrus a thueddiadau yn y newyddion a'r cyfryngau.

Media Bias Fact Check

Sense about Science 

https://senseaboutscience.org

Elusen annibynnol yw Sense about Science sy'n herio camliwio gwyddoniaeth a thystiolaeth mewn bywyd cyhoeddus.

 

Snopes

https://www.snopes.com

Mae Snopes, sef Urban Legends Reference Pages gynt, yn wefan gwirio ffeithiau. Fe'i disgrifiwyd fel "deunydd cyfeirio sydd uchel ei barch ar gyfer datgelu’r gwir am straeon a sïon ffug" ar y Rhyngrwyd. Mae hefyd wedi cael ei weld yn ffynhonnell am ddilysu a datgelu chwedlau modern a straeon tebyg yn niwylliant poblogaidd America.

Snopes.com

 

WHO | World Health Organization

https://www.who.int/

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn monitro a chwalu straeon ffug a gynhyrchwyd gan y cyfryngau am y gwyddorau iechyd a biocemegol.

Image result for who logo

Prawf CCAPP

Acronym yw 'CCAPP' sy'n sefyll am bob cam ym mhroses cloriannu ffynhonnell (Cyfredol – Cywirdeb – Awdurdod – Perthnasol – Pwrpas). Mae wedi’i seilio ar yr acronym Saesneg ‘CRAAP’ (Currency – Revelance – Authority – Accuracy – Purpose)

  • C: Cyfredol 'Currency'

  • C: Cywirdeb 'Accuracy'

  • A: Awdurdod 'Authority'

  • P: Perthnasol 'Relevance'

  • P: Pwrpas 'Purpose'

Datblygwyd y Prawf 'CRAAP' yn Saesneg gan Lyfrgell Meriam ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Chico.

C: Cyfredol - yn ymwneud â pha mor amserol yw'r adnoddau neu pa mor ddiweddar yw'r wybodaeth.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • Pryd cafodd y wybodaeth ei chyhoeddi neu ei rhoi ar y we?
  • A yw'r wybodaeth wedi'i hadolygu neu ei diweddaru? Mae hen ddyddiadau yn awgrymu nad yw wedi'i ddiweddaru ers tipyn.
  • A yw hi'n bwysig cael gwybodaeth gyfredol, neu a fydd ffynonellau hŷn yn gweithio llawn cystal?
  • A yw'r dolenni cyswllt i gyd yn gweithio? Mae dolenni cyswllt sydd wedi'u torri yn awgrymu nad yw'r gwaith wedi'i ddiweddaru.

C: Cywirdeb - yn ymwneud â dibynadwyedd, gwirionedd a chywirdeb y ffynhonnell.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • Allwch chi weld o ble ddaeth y wybodaeth?
  • A yw'r wybodaeth wedi'i hategu gan dystiolaeth gadarn a chywir?
  • Allwch chi ddilysu unrhyw agweddau ar y wybodaeth mewn ffynhonnell ddibynadwy arall?
  • A yw'r iaith neu'r ieithwedd yn ymddangos yn gytbwys, diduedd a heb wallau? Meddyliwch am y ffynhonnell rydych yn ei darllen a chwiliwch am duedd neu wallau.

A: Awdurdod - yn cyfeirio yn syml at yr awdur(on) - pwy ysgrifennodd y darn?  Mae'n bwysig gwybod gwaith pwy rydych chi'n ei ddefnyddio.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • Pwy yw'r awdur, y cyhoeddwr, y ffynhonnell?
  • Beth yw cymwysterau neu brofiad yr awdur neu’r sefydliad?
  • A ellir ymddiried yn yr awduron, neu a ydynt yn gymwys i ysgrifennu am y pwnc?
  • A allech weld unrhyw wybodaeth gyswllt er mwyn cael gwybod mwy am yr awdur neu'r sefydliad?
  • Os gwefan yw'r ffynhonnell, beth mae'r e-gyfeiriad (.com .ac .gov .org .net) yn ei ddweud wrthych am y ffynhonnell? Ewch i'r adran 'Ynghylch/Amdanom' i ddysgu mwy am y sefydliad neu'r awdur

P: Perthnasol - yn ymwneud â phwysigrwydd y wybodaeth i chi a'ch anghenion gwybodaeth chi.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • A yw'r wybodaeth yn ymwneud â'ch ymchwil chi neu'n ateb eich cwestiwn mewn gwirionedd?
  • A yw'r wybodaeth yn bwysig i'ch anghenion chi?
  • Ydych chi wedi edrych ar ystod o ffynonellau eraill ac wedi'u cymharu?
  • A yw'n ffynhonnell ddibynadwy i'ch aseiniad chi ac a ydych chi'n hapus eu ei chynnwys yn eich ymchwil?

Pwrpas - yn ymwneud â pham y crëwyd y wybodaeth.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • Beth yw diben y wybodaeth?
  • Pam y'i hysgrifennwyd? Ai cynghori, dadlau, dysgu, hysbysebu, difyrru neu ddylanwadu yw'r nod?
  • A oes tueddiadau?
  • Pa fath o wybodaeth yw hi - ai ffaith neu farn yr awdur?
  • Pa nod neu fwriad oedd gan yr awdur pan ysgrifennodd y darn?

Y '5 P'

Wrth ddewis adnodd neu wefan, gallwch ddefnyddio'ch sgiliau meddwl beirniadol a'r '5 P'

Bydd angen i chi ofyn y 5 cwestiwn 'P':

 PWY - PA BETH - PRYD - PA LE - PAM

  • Pwy ysgrifennodd hyn?
  • Pa beth yw diben yr astudiaeth?
  • Pryd cafodd yr adnodd ei gyhoeddi?
  • Pa le y mae'r wybodaeth yn deillio ohono?
  • Pam mae'r adnodd hwn yn ddibynadwy?

Fersiwn arall o'r prawf CCAPP, mewn trefn wahanol, sy'n ystyried y ffynhonnell o safbwynt:

  • dibynadwyedd
  • ei diben
  • a yw’n gyfredol
  • ei hawdurdod a’i chywirdeb

Llyfrau yn y Llyfrgell