Rhestrau Ddarllen Aspire yw'r unig ddull y gall staff addysgu ofyn am lyfrau a deunyddiau dysgu eraill ar gyfer modiwlau a addysgir.
Ar ôl ei chyhoeddi, mae Rhestr Ddarllen Aspire yn weladwy i fyfyrwyr presennol o ddewislen y modiwl yn Blackboard ac i ddarpar fyfyrwyr ar dudalennau Modiwlau PA.
Mae'r tudalennau hyn wedi'u cynllunio i helpu staff i fanteisio i’r eithaf ar Restrau Darllen Aspire. Am gyngor, cefnogaeth a hyfforddiant, cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc neu e-bostiwch llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Mae croeso mawr i chi hefyd archebu sesiwn un-i-un ar MS Teams.
Dyma Cwestiynau a holir yn Aml am Restr Ddarllen Aspire
Gwrandwch ar brofiadau fyfyrwyr, academyddion a llyfrgellwyr gan ddefnyddio Aspire (fideos gan Talis Aspire).
Mae'r Llyfrgell yn cynnig gwasanaeth i ddigideiddio adnoddau sydd wedi'u cynnwys ar restrau darllen. Mae Rhestrau Darllen Aspire yn golygu bod y gwasanaeth yn un hawdd i’w ddefnyddio.
Gweler y Canllaw Digideiddio a Hawlfraint i gael mwy o wybodaeth, neu cysylltwch â llyfrgellwyr@aber.ac.uk i gael cymorth
Gellir diweddaru Rhestrau Darllen yn Aspire trwy gydol y flwyddyn, ond rhaid adolygu a chyhoeddi pob rhestr erbyn y dyddiadau cau canlynol:
Mae hyn yn caniatáu digon o amser i Wasanaethau Llyfrgell brynu neu ddigideiddio adnoddau ar gyfer dechrau pob semester a chyn diwedd y flwyddyn ariannol.