Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Canllaw Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol: Traethodau Ymchwil

Traethodau Ymchwil

Ar hyn o bryd mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phorth Ymchwil Aberystwyth, yn derbyn y pethau canlynol oddi wrth adrannau academaidd Prifysgol Aberystwyth:

  • Pob traethawd ymchwil llwyddiannus

maent hefyd yn cynnwys traethodau Meistr a ddysgir trwy gwrs cyn 2013:

  • traethodau ymchwil ar bynciau Cymraeg
  • traethodau ymchwil sydd wedi cael Rhagoriaeth

Gwybodaeth bellach

Traethodau Ymchwil Print

 Mae gan Aberystwyth gasgliad o draethodau ymchwil a allai fod o ddefnydd i chi wrth lunio eich traethawd ymchwil eich hun. Maent i gyd ar Primo. Os hoffech chwilio am draethodau ymchwil ar bwnc penodol defnyddiwch yr allweddair thesis ynghyd ag unrhyw allweddeiriau perthnasol eraill.

 

Traethodau Ymchwil Electronig

Chwiliwch gadwrfa’r Brifysgol, Porth Ymchwil Aberystwyth a Gwasanaeth ‘Electronic Thesis Online’ y Llyfrgell Brydeinig (Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd - E-Theses Online Service (EThOS) update ).

I gael rhagor o wybodaeth 

Gwneud cais am draethawd ymchwil

  • Nid yw'r traethodau ymchwil sy'n cael eu cadw yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn eitemau y gellir eu benthyg - maent yn eitemau i gyfeirio atynt yn y llyfrgell yn unig.
  • Mae'n bosib y bydd traethodau PhD ar gael yn electronig trwy EThOS (Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd - E-Theses Online Service (EThOS) update ).
  • Gallai rhai traethodau eraill fod ar gael trwy Borth Ymchwil Aber
  • Os nad yw'r traethawd ar gael, edrychwch ar ein Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau