Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad: 7. Pa ddull i'w ddefnyddio ar gyfer cyfeirnodi?

Dulliau Cyfeirnodi

Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn hyrwyddo dull arbennig o gyfeirnodi gan fod rhai dulliau'n fwy addas i ddisgyblaeth neu bwnc penodol nac eraill. Felly bydd gan bob Adran unigol ei dewis ddull ei hun o gyfeirnodi.

Awgrymiadau Da:

Defnyddiwch y canllawiau isod i weld pa ddull a ddefnyddir gan eich Adran.
 
MLA 8fed argraffiad

Mae canllaw'r Adran Gelf ynglŷn â defnyddio'r MLA i'w gael yn. (2016)

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

Examples of this referencing style can be found on the Referencing Examples page of this guide.

OSCOLA

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

APA

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

Troednodyn/Ôl-nodyn

(Sylwer: cymerwyd yr wybodaeth hon o lawlyfr Ysgrifennu a Chyfeirnodi'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sydd i'w weld yma)
 
Defnyddio'r system Troednodyn/Ôl-nodyn

Mae llawer mwy o debygrwydd rhwng dwy elfen y system troednodyn/ôl-nodyn nag a geir yn achos y system Harvard/yn-y-testun.  Bydd y cyfeirnod yn y llyfryddiaeth fel arfer yr un peth â'r cyfeirnod yn y troednodyn/ôl-nodyn, ond ni fydd angen cyfeirio at dudalen benodol.
 
Yr elfen gyntaf

Yn y system troednodyn/ôl-nodyn, caiff y cyfeirnodau eu nodi gan rif uwchysgrif yn y testun a'i osod naill ai ar waelod y dudalen (troednodyn) neu ar ddiwedd y traethawd (ôl-nodyn).
 
Er enghraifft, yn nhestun eich traethawd dylid ychwanegu rhif cyfair, fel arfer mewn uwchysgrif:
...mewn trefn o'r fath dywedir bod rhyfel yn anorfod.1

Sylwer bod y rhif cyfair yn cael ei roi ar ôl yr atalnod llawn ac nid o'i flaen. Ar waelod y dudalen neu ar ddiwedd y traethawd rhaid rhoi rhestr sy'n cyfateb i'r rhifau cyfair yn y testun. Rhaid rhoi'r cyfeirnod yn llawn y tro cyntaf y caiff ei grybwyll.

Wedi hynny, dylid defnyddio enw'r awdur a theitl wedi'i dalfyrru (peidiwch â defnyddio op. cit. neu ibid. am fod hyn yn gallu creu dryswch os yw'r testun yn cael ei ddiwygio nes ymlaen). Er enghraifft:
Felly, honnir mai strwythur y system yw'r newidyn hanfodol.2

Yr ail elfen

Ail elfen y system troednodyn/ôl-nodyn yw rhestr gyfeirnodi gyflawn a roddir ar ddiwedd y traethawd, wedi'i threfnu yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw'r awdur. Dylech roi cyfeirnod i bob ffynhonnell yr ydych yn ei ddarllen wrth ymchwilio i'ch traethawd a'i ysgrifennu hyd yn oed os nad ydych wedi eu cydnabod yn uniongyrchol yn y traethawd. Dylent gydymffurfio â'r fformat a roddir yn yr enghreifftiau ar y tudalennau canlynol.

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

Harvard

Defnyddir system Havard neu'r system troednodyn/ôl-nodyn.

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

IoP Journal guidelines

Cymerwyd yr wybodaeth hon (sydd wedi’i chyfieithu) o ‘Institute of Physics Author Guidelines’ .

"Cyfeirnodau

Rydym yn annog defnyddio system gyfeirnodi Harvard neu Vancouver. Serch hynny, gallwch ddefnyddio unrhyw system gyfeirnodi cyhyd â'i bod yn synhwyrol ac yn gyson yn y papur drwyddi draw. Fe wnawn yn sicr bod eich cyfeirnodi'n cadw at ddull y tŷ yn ystod y broses gynhyrchu, pa fformat bynnag y byddwch yn ei ddefnyddio wrth gyflwyno.

Dylai eich cyfeirnod roi digon o wybodaeth i'r darllenydd allu dod o hyd i'r erthygl, a dylech ofalu sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir fel y gellir creu dolenni DOI.

Cydnabyddiaethau

Gwnewch yn sicr fod pob cyfeirnod yn cael ei gydnabod yn y testun a bod gan bob cydnabyddiaeth gyfeirnod cyfatebol" (IOP, n,d,, n.p.)
 
Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

MHRA

Mae'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn defnyddio fersiwn wedi'i addasu ychydig o'r dull MHRA.

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

Mae enghreifftiau o'r dull hwn o gyfeirnodi i'w gweld ar dudalen Enghreifftiau o Gyfeirnodi yn y canllaw hwn.

Ceir defnyddio unrhyw ddull cyfeirnodi - cysondeb yw'r allwedd

Mae gwybodaeth lawn am gyfeirnodi yn yr Adran Cyfrifiadureg i'w gweld yma.

Daw'r wybodaeth hon o we-ddalen  Arfer Academaidd Da Dulliau Cyfeirnodi'r Adran:
Oni bai eich bod yn cael cyfarwyddyd gwahanol gan aelod staff, gallwch ddefnyddio pa ddull cyfeirnodi bynnag a ddewiswch, cyhyd â'ch bod yn fformatio cydnabyddiaethau a rhestrau cyfeirnodi yn gyson. Rhaid ichi roi gwybodaeth lyfryddiaethol gyflawn, digon i'r darllenydd allu dod o hyd i'r cyfeirnod mewn llyfrgell.

Defnyddio Cyfeirnodau

  • Mae angen cyfeirnodi popeth heblaw ffeithiau hen sefydledig
  • RHAID i bob cydnabyddiaeth yn y testun gael ei chynnwys yn y rhestr gyfeirnodi a vice versa
  • Rhaid bod y cyfeirnod yn dweud yr hyn yr honnwch ei fod yn ei ddweud

Mae gwybodaeth lawn am gyfeirnodi yn yr Adran Fathemateg i'w chael yma