Mae cefnogaeth Llyfrgell ar gael drwy e-bost, ffôn, Skype a MS Teams. Gweler manylion isod.
Mae Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar gau nes clywir yn wahanol.
Sut alla i gael gafael ar adnoddau llyfrgell nawr bod y llyfrgell ar gau?
Beth fydd yn digwydd i'm benthyciadau o'r llyfrgell nawr mae'r llyfrgellydd ar gau?
Mae'r canolfannau dysgu ac ystafelloedd cyfrifiadura 24/7 ar gau nes clywir yn wahanol.
Ni fyddwn yn gofyn i chi ddychwelyd eich llyfrau hyd yn oed os ydynt wedi cyrraedd pen eu cyfnod benthyca.
Cofiwch nad oes angen i chi boeni am eitemau ar fenthyg gan y bydd dirwyon yn cael eu diddymu o 17 Mawrth 2020. Gallwch wirio eich cyfrif llyfrgell o Primo neu trwy App Aber.
Ni ellir rhoi cais am lyfr sydd wedi’i fenthyca gan unrhyw un arall.
Nid ydym yn caniatáu ichi ddychwelyd llyfrau ar hyn o bryd. Rydym yn ystyried ffyrdd y gallwch ddychwelyd llyfrau yn nes at ddiwedd y tymor a byddwn yn diweddaru’r cyngor ar y dudalen hon a thrwy gyfryngau cymdeithasol y Gwasanaethau Gwybodaeth erbyn diwedd Ebrill 2020.
Croeso i Brifysgol Aberystwyth! Mae'r tudalennau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i gael y gorau o'n hadnoddau wrth i chi benderfynu pa bynciau rydych chi'n mynd i'w hastudio. Ar ôl i chi ddewis, defnyddiwch y Canllawiau Pwnc penodol ar hafan LibGuides.
Cysylltwch ag unrhyw gwestiynau trwy llyfrgellwyr@aber.ac.uk
Os oes angen llyfr arnoch, ond methu cael mynediad iddo, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau:
Byddwn yn prynu fersiwn electronig os oes un ar gael.
Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol gwasanaethau'r llyfrgell. Wedi ei lleoli ar gampws Penglais [Lleoliad], mae'n darparu man ar gyfer astudio, pa un ai ydych am astudio'n dawel ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Darperir amrywiaeth o adnoddau i roi help llaw gyda'ch astudiaethau ac ar gyfer ymlacio mewn man tawel.
Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.
Os ydych am gael mynediad i'n hadnoddau electronig oddi ar y campws, nid oes angen i chi osod a rhedeg VPN bellach; gellir cael mynediad at y rhain gan ddefnyddio Primo VPN.
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud yw:
1. Mewngofnodi i https://primo-vpn.aber.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth (PA). Mae rhaid i chi gadw'r porwr ar agor tra'ch bod yn gweithio.
2. Mewngofnodi i https://primo.aber.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA - cewch eich annog i wneud hyn ar ôl cysylltu â Primo VPN.
Byddwch wedyn yn cael mynediad oddi ar y campws i’r mwyafrif o adnoddau gwybodaeth electronig y mae PA wedi tanysgrifio iddynt a’u testun llawn. Os ydych chi’n cau eich porwr bydd angen i chi fewngofnodi eto.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).