Trwy ddigideiddio adnoddau, mae yna fanteision amlwg i chi:
clicio’n syth at benodau ac erthyglau wedi’u digideiddio
y deunydd darllen diweddaraf i'r modiwlau
integreiddio i mewn i Primo a Blackboard
gellir clicio'n syth i e-lyfrau a thestunau llawn o erthyglau a chyfnodolion
cofnod darllen personol
gwell profiad astudio
sicrhau bod testunau allweddol ar gael i bob myfyriwr waeth beth yw maint y garfan
darparu mynediad i eitemau sydd ddim ar gael yn ein llyfrgelloedd drwy archebu copïau
Mae trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth yn caniatáu ehangu / lleihau maint math / ffontiau / addasiad lliw amgen a chyfiawnhad chwith / dde (ac unrhyw dechnegau eraill i wneud cynnwys yn fwy hygyrch) o unrhyw faint o ddeunydd ar yr amod:
bod y deunydd wedi'i gwmpasu gan drwydded yr Asiantaeth
bod copïau at ddefnydd myfyrwyr neu staff ag unrhyw anabledd cydnabyddedig o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd at ddibenion addysgol yn unig
nid yw'r deunydd eisoes ar gael mewn fformat amgen derbyniol e.e. fersiwn electronig
bod gan y Brifysgol gopi o'r rhifyn cyhoeddedig gwreiddiol o'r deunydd a bod hwn ar gael i fyfyrwyr eraill
O dan y Ddeddf Hawlfraint gellir copïo'r gwaith cyfan i fformat arall. Rhaid cynnwys gwybodaeth lyfryddol lawn y rhifyn cyhoeddedig gwreiddiol a nodi bod y copi wedi'i wneud o dan y Ddeddf Hawlfraint.
Mae gan ein sganiau newydd Adnabyddiaeth Nodau Gweledol (Optical Character Recognition/OCR) a gellir eu defnyddio gyda meddalwedd darllenwyr sgrin fel Read and Write, sydd ar gael ar bob cyfrifiadur yn ystafelloedd cyfrifiaduron y Brifysgol.
I ddod o hyd i'r feddalwedd, mewngofnodwch i'r cyfrifiadur, cliciwch ar Start a theipiwch enw'r feddalwedd yn y blwch chwilio.
Cewch glywed tudalennau gwe a dogfennau yn cael eu darllen yn uchel i wella darllen a deall, gyda dewis o leisiau naturiol
Deall geiriau anghyfarwydd â geiriaduron testun a llun
Datblygu sgiliau ysgrifennu gyda rhagfynegiad geiriau a gwiriwr gramadeg, sillafu a geiriau dryslyd
Cefnogi ymchwil myfyrwyr annibynnol gydag offer sgiliau astudio gwerthfawr
Gallwch ddod o hyd i'r adnoddau sydd wedi'u digideiddio yn BlackBoard trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod:
Mewngofnodwch i BlackBoard
Ewch i'r modiwl dan sylw
Cliciwch ar y linc Rhestr Ddarllen yn y ddewislen ar y chwith
Os gwelwch y canlynol wrth ymyl eitem, golyga hyn ei fod yn erthygl/pennod sydd wedi cael ei ddigideiddio gan staff y Llyfrgell.
Cliciwch ar yr eitem i'w ddarllen.
Bydd y darlleniad digidol sydd wedi'i brosesu gan staff y llyfrgell yn agor o'r platfform Storfa Cynnwys Digidol (Digital Content Store/DCS) yr Asiantaeth gyda hysybysiad hawlfraint ar y blaen. Bydd yn edrych fel hyn:
Gallwch ddod o hyd i'r adnoddau sydd wedi'u digideiddio yn Aspire trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod:
Teipiwch enw'r modiwl a/neu'r cod yn y blwch chwilio
Gellir adnabod pennod neu erthygl wedi'i digideiddio yn y rhestr ddarllen oherwydd dyma ddisgrifiad yr adnodd a hefyd trwy weld y botwm Gweld ar-lein wrth ochr yr eitem
Cliciwch Gweld ar-lein