Mae'r Llyfrgell yn cynnig gwasanaeth i ddigideiddio adnoddau sydd wedi'u cynnwys ar restrau darllen ar Aspire. Gallwn sganio penodau o lyfrau ac erthyglau o gyfnodolion ac yna cysylltu'r copi digidol yn uniongyrchol â'r rhestr ddarllen fel ei fod ar gael i fyfyrwyr i ddarllen ar-lein.
Rhaid i staff academaidd wneud cais trwy eu rhestr darllen ar Aspire am unrhyw eitem maent am cael ei digideiddio.
Os oes angen digideiddio pennod neu erthygl:
Rhowch yr adnodd ar y rhestr ddarllen Aspire fel Pennod (Sut mae gwneud hynny?) neu Erthygl (Sut mae gwneud hynny?)
Cliciwch ar y ⋮ botwm wrth ymyl yr adnodd yr hoffech ei ddigideiddio.
Dewiswch Gofyn am ddigido
Bydd staff y llyfrgell yn gwirio am unrhyw gyfyngiadau hawlfraint trwy ddefnyddio Storfa Cynnwys Digidol (Digital Content Store/DCS) yr Asiantaeth.
Mae'r Storfa yn blatfform arloesol ar y we sy'n ystorfa chwiliadwy o ddarnau llyfrau a chyfnodolion wedi'u digideiddio.
Os nad oes cyfyngiadau, bydd staff y llyfrgell yn sganio'r bennod / erthygl ofynnol ac yna bydd y copi digidol yn cael ei gysylltu'n uniongyrchol â'r rhestr ddarllen ac ar gael i fyfyrwyr i ddarllen ar-lein.
Fe'ch hysbysir pan fydd y digideiddio wedi'i gwblhau.
Weithiau, bydd angen i staff y llyfrgell ymchwilio ymhellach os caniateir defnyddio darlleniad.
Byddant mewn cysylltiad os oes unrhyw faterion ynglŷn â hawlfraint a byddant yn eich cynghori ar beth i'w wneud nesaf (er enghraifft, awgrymu darlleniad arall).
Gall ceisiadau a wrthodwyd ddod o dan y categorïau canlynol:
gwaith eithriedig
cais yn fwy na x1 pennod / x1 erthygl
cais yn fwy na 10% o gyfanswm y cyhoeddiad
Bydd staff y llyfrgell mewn cysylltiad â chi os fydd darlleniad yn cwympo i unrhyw un o'r categorïau uchod.
Os yw'ch cais yn ymwneud â chyhoeddiad nad yw'n rhan o gasgliad yn unrhyw un o'n llyfrgelloedd (hynny yw, stoc y llyfrgell), bydd staff yn ceisio chwilio modd arall o'i gael fel prynu fersiwn e-lyfr neu archebu copi digidol o'r darn o'r Llyfrgell Brydeinig.
Os oes gan y Llyfrgell Brydeinig gopi o'r darlleniad y gofynnwyd amdano, byddwn yn cyflenwi dogfen o ansawdd uchel ac yn ei brosesu fel cais digideiddio arferol. Bydd ffioedd hawlfraint yn cael eu talu gan y Llyfrgell.
Gellir diweddaru rhestrau darllen yn Aspire trwy gydol y flwyddyn, ond rhaid adolygu a chyhoeddi pob rhestr erbyn y dyddiadau cau canlynol:
Modiwlau Semester 1: 31ain Gorffennaf
Modiwlau a addysgir dros y ddau semester: 31ain Gorffennaf
Modiwlau Semester 2: 30ain Tachwedd
Modiwlau dysgu o bell: 30ain Mehefin
Mae hyn yn caniatáu digon o amser i staff y Llyfrgell brynu neu ddigideiddio adnoddau ar gyfer dechrau pob semester a chyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mae'r holl ddarlleniadau sydd wedi'u digideiddio yn cael eu trosglwyddo i'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Mehefin bob blwyddyn. Nid oes angen i chi ail-ofyn am ddeunydd. Bydd yr holl ddarnau digidol a ddefnyddiwyd eleni yn cael eu trosglwyddo i'r sesiwn academaidd newydd yn awtomatig a byddant ar gael trwy eich rhestr ddarllen modiwlau.
Rhaid i chi wirio'ch rhestr ddarllen i weld a oes angen y penodau / erthyglau y gofynnwyd amdanynt am flwyddyn arall a'i chyhoeddi fel y bydd y llyfrgell yn cael ei rhybuddio.
Os nad oes angen i ddarlleniad gael ei gynnwys fel deunydd wedi'i ddigideiddio mwyach, tynnwch y bennod / erthygl i ffwrdd o'r rhestr ddarllen. Bydd staff y llyfrgell yn prosesu'r newid hwn ac ni fydd y darlleniad bellach yn weladwy nac ar gael ar-lein i fyfyrwyr.
Dros yr haf, bydd pob deunydd digidol yn cael ei ailwirio yn erbyn trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth i sicrhau y caniateir iddynt fod ar gael am flwyddyn arall. Bydd staff y llyfrgell yn nodi unrhyw newidiadau / gwaharddiadau mewn hawlfraint a byddant yn cysylltu â staff academaidd / cynullwyr modiwlau yn uniongyrchol os oes rhaid tynnu / disodli unrhyw eitemau.
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cyflwyno adroddiad blynyddol o'u copïau digidol i'r Asiantaeth trwy'r Storfa Cynnwys Digidol (Digital Content Store/DCS). Mae'r adroddiad yn nodi pa benodau ac erthyglau a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn academaidd a faint o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar fodiwl.
Mae cyflwyno'r adroddiad yma yn rhan o delerau ac amodau'r drwydded.
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth digideiddio neu os oes gennych ymholiad ynglŷn â chais, cysylltwch â: