The Hugh Owen Library is the main University Library and the centre of administration for Information Services. Based on Penglais campus [map], it provides a space to study, whether you wish to study quietly on your own or with others. A range of facilities are provided both to help you with your studies and for quiet relaxation.
Llyfrgell Hugh Owen
Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Oriau Agor
LLYFRGELL HUGH OWEN
Mae Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor
Ceir rhagor o fanylion ar ein tudalen Oriau Agor Llyfrgell Hugh Owen.
LLYFRGELL Y GWYDDORAU FFISEGOL
Lleolir y Llyfrgell ar y 4ydd llawr adeilad y Gwyddorau Ffisegol.
Ceir rhagor o fanylion ar ein tudalen Oriau Agor Llyfrgell Y Gwyddorau Ffisegol.
Mae holl staff a myfyrwyr y Brifysgol yn medru benthyca hyd at 40 eitem ar un amser.
Gallwch benthyca'r rhan fwyaf o eitemau am wythnos, ac fe fydd y rhain yn cael eu adnewyddu yn awtomatig bob wythnos naill ai tan bod defnyddiwr arall eisiau'r eitem, neu tan fydd y llyfr wedi bod ar fenthyg am 12 mis.
Ni fyddwch yn cael dirwy oni bai nad ydych yn dychwelyd llyfr â adelwir gan ddefnyddiwr arall, neu os nad ydych yn dychwelyd yr eitem i'r llyfrgell ar ôl 12 mis.
https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/printing/
Mae peiriannau argraffu/llungopïo/sganio cyfunol ar gael ar bob llawr o'r Llyfgell. Gallwch fewngofnodi i unrhyw un o’r rhain naill ai gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair neu gyda’ch Cerdyn Aber. Bydd angen i chi lwytho arian ar eich Cerdyn Aber er mwyn argraffu. Mae’n costio o 2c i argraffu un ochr dalen (du a gwyn, A4), a chewch sganio ar ein peiriannau argraffu yn rhad ac am ddim, er y bydd angen rhywfaint o gredyd ar eich Cerdyn Aber cyn cychwyn.
Mae canllaw argraffu ar gael yma.
Mae gwybodaeth am argraffu a’r taliadau cyfredol ar gael yma.
Primo yw catalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Yn Primo gallwch chwilio am lyfrau, erthyglau, traethodau ymchwil a deunyddiau eraill yng nghasgliad y llyfrgell o adnoddau printiedig ac electronig. I gael y canlyniadau gorau o Primo, bydd angen i chi mewngofnodi.
Mae rhestr ddarllen ar gyfer modiwl fel rheol yn cynnwys rhestr o lyfrau a ffynonellau gwybodaeth eraill a gasglwyd gan gynllunydd y modiwl i gynorthwyo eich astudiaeth o'r modiwl hwnnw.
Cewch hyd i'r rhestr ddarllen ar gyfer modiwl yr ydych yn ei astudio yn Blackboard.
Mewngofnodwch, ewch i'r modiwl a chliciwch ar y ddolen Rhestr Ddarllen Aspire yn y ddewislen ar y chwith,
Neu ymwelwch ag Aspire a chwilota am fodiwl drwy teiptio teitl a/neu gôd y modiwl
Os ydych chi'n dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu os ydych chi'n ddarpar fyfyriwr, ewch i dudalennau modiwlau PA ac ar dudalen unrhyw un o'r modiwlau:
cliciwch ar Gweld yn Aspire i weld rhestr ddarllen ar gyfer modiwl presennol
cliciwch ar Gweld enghraifft o restr yn Aspire i weld enghraifft o restr ar gyfer modiwl a fydd yn cael ei ddysgu yn y dyfodol
neu ewch i Aspire a chwiliota am fodiwl drwy teipio teitl a/neu gôd y modiwl