Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.
Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.
Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).
Cyhoeddiad yw cyfnodolyn sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol sy'n gallu cynnwys detholiad o erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Cyhoeddir cyfnodolion yn reolaidd, megis yn wythnosol, misol neu chwarterol. Mae pob copi yn rifyn ac mae set o rifynnau yn gwneud cyfrol (fel arfer, mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân). Gelwir cyfnodolion weithiau yn gylchgronau. Unrhyw beth a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y rhif dosbarth, golyga hyn ei fod yn gyfnodolyn. Gallant fod ar gael mewn fformat print, ar-lein neu'r ddau.
Pam defnyddio erthyglau?
Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd.
Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.
Ceir cyfarwyddiadau manwl ar sut i chwilio a darllen erthygl testun-llawn ar y dudalen Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 1185.
Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o gyfnodolion electronig.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am adnoddau electronig y fan yma.
Ymwelwch â'r Cwestiynau a Holir yn Aml am e-gyfnodolion (Saesneg yn unig - aros am gyfieithiad).
Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.
Os ydych chi'n chwilio am lyfr neu erthygl nad oes gennym fynediad iddo, efallai y gallwn ei fenthyg i chi o lyfrgell arall. Cyflwynwch eich cais gan ddefnyddio'r botwm Document Supply yn Primo, ac fe wnawn ni’r gweddill.
Mwy o wybdoaeth am y gwasaneth a ffurflenni ar gael ar y dudalen yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/documentsupply/
Mynediad cyflym i wefannau gwahanol gyhoeddwyr. Teipiwch eich allweddeiriau i chwilio adnoddau ar eich testun.
American Chemical Society (ACS) Journals Search
American Society for Microbiology (ASM) Journals
Cambridge Core (Journals and Books)
Directory of Open Access Journals (DOAJ)
Highwire Press (free papers)
Highwire Press (all titles browse)
PLoS Public Library of Science Journals