Un o nodweddion pwysicaf ysgrifennu academaidd yw cydnabod llyfrau, erthyglau cyfnodolion a ffynonellau gwybodaeth eraill rydych wedi’u defnyddio yn eich gwaith, fel arfer drwy gyfeirio atynt yn eich aseiniad a rhestru pob un ar y diwedd mewn llyfryddiaeth. Yn aml iawn, fe gewch farciau am wneud hyn yn gywir felly mae’n sgil sy’n werth ei dysgu cyn gynted ag y gallwch.
Cymerwch olwg ar ganllawiau'r adran a'r adnoddau arall rhestrwyd ar y dudalen hon. Os oes angen unrhyw gyngor pellach gyda chyfeirnodi, mae croeso i chi cysylltu gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc.
Chwiliwch Primo i ddod o hyd i deitlau pellach neu porwch trwy’r Casgliad Astudio Effeithiol ar Lawr F Hugh Owen.
Mae yna nifer o gyrsiau am ar gael yn y Brifysgol sy'n ffocysu ar sgiliau cyfeirnodi. Mae'r cyrsiau rhad ac am ddim ar gael ar gyfer myfyrwyr is-, ac ôl-raddedig a threfnwyd gan adran Cymorth i Fyfyrwyr.
Arddull cyfeirnodi a defnyddir yn aml yn y Gyfraith yw OSCOLA (Oxford Standard for Citation of Legal Authorities).
Cewch esiamplau ar sut i gyfeirio at ddeddfwriaeth, achosion llys, llyfrau, erthyglau a thestunau arall a defnyddir yn aml yn aseiniadau'r Gyfraith yn: OSCOLA: Canllaw Cyflym (OSCOLA Quick Reference Guide).
Mae canllaw cyflawn OSCOLA (4ydd arg.) hefyd ar gael gyda thrwydded Creative Commons Attribution - Non Commercial - Share Alike 2.0 UK: England & Wales License.