Mae rhestr ddarllen ar gyfer modiwl fel rheol yn cynnwys rhestr o lyfrau a ffynonellau gwybodaeth eraill a gasglwyd gan gynllunydd y modiwl i gynorthwyo eich astudiaeth o'r modiwl hwnnw.
Ble i ddod o hyd i fy rhestr ddarllen?
BlackBoard
Dewch o hyd i restr ddarllen ar gyfer modiwl yr ydych yn ei astudio yn Blackboard.
Mewngofnodwch i blackboard.aber.ac.uk ewch i'r modiwl a chliciwch ar y ddolen Rhestr Ddarllen Aspire yn y ddewislen ar y chwith.
Aspire
Neu ymwelwch ag Aspire at aspire.aber.ac.uk a chwilota am fodiwl drwy teiptio teitl a/neu gôd y modiwl.
Am fwy o fanylion ewch i'r dudalen Rhestrau Darllen.
Os ydych chi'n dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu os ydych chi'n ddarpar fyfyriwr, ewch i dudalennau modiwlau PA ac ar dudalen unrhyw un o'r modiwlau:
cliciwch ar Gweld yn Aspire i weld rhestr ddarllen ar gyfer modiwl presennol
cliciwch ar Gweld enghraifft o restr yn Aspire i weld enghraifft o restr ar gyfer modiwl a fydd yn cael ei ddysgu yn y dyfodol
Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.
Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.
Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).
Os oes angen llyfr arnoch, ond methu cael mynediad iddo, gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau:
Byddwn yn prynu fersiwn electronig os oes un ar gael.
Primo yw'r enw ar gatalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Yn Primo gallwch chwilio am lyfrau, erthyglau, traethodau ymchwil a deunyddiau eraill yng nghasgliad y llyfrgell o adnoddau printiedig ac electronig. I gael y canlyniadau gorau o Primo, bydd angen i chi mewngofnodi.
Mae ein Cwestiynau a Holir yn Aml am Primo yn llawn o wybodaeth defnyddiol. Cymrwch olwg arnynt y fan hyn.
I ddarganfod a oes llyfr penodol ar gael yn y Llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Llyfrau yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig neu hidlo'r canlyniadau yn fwyfwy i ateb eich gofynion.
Llyfr ar gael
Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth.
Llyfr ar fenthyg
Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn.
Ad-alw llyfr
Medrwch ad-alw llyfr yn ôl os yw ar fenthyg. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ad-alw y fan yma.
Mynediad Ar-lein
Pan fydd mynediad ar-lein ar gael i lyfr electronig, bydd Primo yn nodi hyn fel y ganlyn:
Cysylltwch â Lloyd, eich Llyfrgellydd Pwnc os oes gennych unrhyw ymholiad llyfrgellyddol neu os hoffech drefnu cyfarfod:
Ebost: glr9@aber.ac.uk
Mae holl staff a myfyrwyr y Brifysgol yn medru benthyca hyd at 40 llyfr ar un amser.
Gallwch benthyca'r rhan fwyaf o lyfrau am wythnos, ac fe fydd y rhain yn cael eu adnewyddu yn awtomatig bob wythnos naill ai tan bod defnyddiwr arall eisiau'r llyfr, neu tan fydd y llyfr wedi bod ar fenthyg am 6 mis.
Ni fyddwch yn cael dirwy oni bai nad ydych yn dychwelyd llyfr â adelwir gan ddefnyddiwr arall, neu os nad ydych yn dychwelyd y llyfr i'r llyfrgell ar ôl 6 mis.
Mannau Astudio yn Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Rhagor o wybodaeth am y mannau astudio yn Llyfrgell Hugh Owen.
Rhagor o wybodaeth am mannau astudio yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.