Lleolir y prif gasgliad o ddeunyddiau printiedig e.e. llyfrau, cyfnodolion, cyfeirlyfrau a chyfeirlyfrau cyflym ar gyfer Celf a Hanes Celf yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F (llawr uchaf):
E Diwylliant
N Celfyddydau Gweledol cyffredinol
NA Pensaerniaeth
NB Cerfluniaeth
NC Tynnu Lluniau, Dylunio a Darlunio
ND Peintio
NE Cyfryngau Print
NK Celfyddydau Addurnol
NX Celf yn gyffredinol yn ol mudiad/cyfnod
Z Llyfryddiaeth printiedig Cyfnodolion wedi’u hargraffu
Noder, mae llyfrau ffotograffiaeth yn adran TR ar lawr E (llawr canol).
Llyfrgell Hugh Owen
Oriau Agor
Llyfrgell Hugh Owen
Oriau craidd: 09:00-17:00 dydd Llun-Gwener
Gwasanaethau wedi eu staffio: 08.30-22:00
Hunan-wasanaeth /defnydd cyfeiriadol: 22:00-08:30
ein horiau agor ar gael yma
Mae’r ddolen hon yn mynd â chi i’r adran Cwestiynau Cyffredin ar dudalen gwe Prifysgol Aberystwyth. Bydd hyn yn eich helpu i ddysgu sut i gael gafael ar e-lyfrau.
Fideo Panopto ar sut i chwilio am erthyglau cyfnodolion ar Primo.
Fideo ar gael yma
Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol gwasanaethau'r llyfrgell. Wedi ei lleoli ar gampws Penglais, mae'n darparu man ar gyfer astudio, pa un ai ydych am astudio'n dawel ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Darperir amrywiaeth o adnoddau i roi help llaw gyda'ch astudiaethau ac ar gyfer ymlacio mewn man tawel.
Mae nifer o amgueddfeydd ac orielfeydd bellach yn gwneud casgliadau o'u cyhoeddiadau ar gael arlein am ddim, gan gynnwys catalogau rhai o arddangosfeydd enwocaf yr ugeinfed ganrif:
Os ydych am gael mynediad i'n hadnoddau electronig oddi ar y campws, nid oes angen i chi osod a rhedeg VPN bellach; gellir cael mynediad at y rhain gan ddefnyddio Primo VPN.
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud yw:
1. Mewngofnodi i https://primo-vpn.aber.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA. Mae rhaid i chi gadw'r porwr ar agor tra'ch bod yn gweithio.
2. Mewngofnodi i https://primo.aber.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA - cewch eich annog i wneud hyn ar ôl cysylltu â Primo VPN.
Byddwch wedyn yn cael mynediad oddi ar y campws i’r mwyafrif o adnoddau gwybodaeth electronig y mae PA wedi tanysgrifio iddynt a’u testun llawn. Os ydych chi’n cau eich porwr bydd angen i chi fewngofnodi eto.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).