Helo! Fy enw i yw Non Jones, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes Gwyddorau Bywyd a BVSc.
Gallaf eich cynorthwyo i ddod o hyd i lyfrau ac erthyglau priodol ar gyfer eich traethodau, adolygu ac ymchwil.
Lluniwyd y tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau llyfrgell.
Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth ar gael drwy ymweld â Lefel D, Llyfgell Hugh Owen, sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
Rwy'n cynnig sesiynau wyneb-yn-wyneb galw heibio Llyfrgell:
10yb - 1yp, dydd Llun
Desg Ymholiadau Lefel F,
Llyfrgell Hugh Owen
(yn ystod tymor yn unig)
Dewch â'ch cwestiynau am ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau, traethawd hir neu ymchwil.
Fel arall, gallwch anfon eich cwestiynau ataf trwy e-bost neu trefnwch apwyntiad i gwrdd ar-lein drwy Teams
Trefnu Apwyntiad Ar-lein
https://libcal.aber.ac.uk/appointments/non
Dewiswch ddydd ac amser sy'n gyfleus.