Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Gwleidyddiaeth Ryngwladol: Cyflwyniad

Cyflwyniad

 

Croeso i Lyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Fy enw i yw Simon French a fi yw'r llyfrgellydd pwnc ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Rwyf wedi llunio'r tudalennau hyn i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr adnoddau y mae'r llyfrgell yn eu darparu.

Cysylltwch â mi os hoffech wneud y canlynol:

Cael taith o amgylch y llyfrgell.

Cael cymorth i ddod o hyd i'r adnoddau ar eich rhestrau darllen.

Dysgu sut i chwilio Primo, catalog y llyfrgell, yn gyflym ac yn effeithiol am adnoddau a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich aseiniadau neu’ch traethawd hir.

Cael gafael ar adnoddau nad yw'r llyfrgell yn eu cadw ar hyn o bryd.

Rwy'n gweithio yn Llyfrgell Hugh Owen. Rwy'n gweithio’n rhan amser, o ddydd Llun i ddydd Iau.

Taith o amgylch Llyfrgell Hugh Owen

Manylion Cyswllt

Desg Llyfrgell a TG

Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth ar gael drwy ymweld â Lefel D, Llyfgell Hugh Owen, sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost. 

Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/ 

Dewch i'm gweld yn y llyfrgell

Rwy'n gweithio ar Ddesg Ymholiadau Llawr F yn Llyfrgell Hugh Owen ar: Ddydd Iau rhwng 1yp a 4yp (Yn ystod y tymor yn unig)

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch dod o hyd i adnoddau ar gyfer eich aseiniadau, traethawd hir neu ymchwil, dewch draw i ddweud helo!

Mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws

AberInterPol Twitter

prfysgolaber_gg